google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Mor bwysig bod y Brifwyl yn cydnabod gwaith gwyddonwyr’

Mae’n 20 mlynedd eleni ers i’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg gael ei chyflwyno gyntaf, ac yn ôl un sydd wedi ei hennill mae’r fedal a’r babell wyddoniaeth ar y maes yn hynod o bwysig.

Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008, a dwy flynedd cyn hynny yn Eisteddfod Abertawe a’r Cylch dyfarnwyd mai ei fam, Eirwen Gwynn, oedd yn deilwng ohoni.

“Mae hi mor bwysig bod gwaith gwyddonwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gydnabod,” medd Dr Iolo ap Gwynn wrth siarad â Cymru Fyw.

“Prif amcan cyhoeddi cylchgrawn Y Gwyddonydd, er enghraifft, yn 1963 oedd dangos fod hi’n bosib ymdrin â phynciau gwyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ar hyd y blynyddoedd mae nifer o wyddonwyr wedi bod yn ymdrechu’n galed i gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg ac mae ond yn deg bod hynny yn cael ei gydnabod yn yr Eisteddfod.

“Mae gwyddonwyr yn haeddu cael eu cydnabod yn yr un modd â llenorion a cherddorion.”


Source link

Advertisements

See also  Cofio bywyd y telynor o Feirionnydd, Huw Lewis Jones

Check Also

‘Argyfwng difrifol’ tlodi plant yng Nghymru yn costio ‘£2.2b y flwyddyn’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynnig newydd “ar gyfer gofal plant, ar ôl ei …

Wrecsam yn y pedwar olaf yn y ras i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029

Ychwanegodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod gan Wrecsam lawer i’w gynnig “o ran treftadaeth, …

‘Rhaid i gwmnïau lleol gael cyfran deg o gyfleoedd niwclear Môn’

Mae’r prentisiaid ei hunain hefyd yn gweld potensial mewn prosiect o fewn eu milltir sgwar. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime