google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Atal nyrs o’r gogledd o’r proffesiwn am gam-drin cleifion bregus

Dywedodd yr adroddiad fod Mr Lang wedi dweud wrth yr NMC ym mis Ionawr 2023 nad oedd ganddo ddiddordeb mewn ymgysylltu â’u proses ddisgyblu ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ddychwelyd i nyrsio.

Cafodd ei gyfeirio at yr NMC yn 2014 gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl iddynt ei atal o’i waith yn dilyn ymchwiliad i arferion ar y ward.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi bod o dan y chwyddwydr ers hynny, ond y gred ydy mai Mr Lang ydy’r aelod cyntaf o staff i gael ei dynnu oddi ar gofrestr mewn cysylltiad â’r digwyddiadau yn ward Tawel Fan.

Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Roedd ymddygiad Mr Lang yn ofnadwy.

“Fe gymrodd fantais o’i safle fel gweithiwr iechyd ac ar ran y bwrdd iechyd rwy’n ymddiheuro am y loes sylweddol mae cleifion a theuluoedd wedi ei brofi oherwydd ei ymddygiad.”

Ychwanegodd fod “y pryderon yn destun ymchwiliadau gan yr heddlu yn ogystal ag archwiliadau allanol gan Donna Ockenden a’r Health and Social Care Advisory Service (HASCAS), ac yn dilyn hynny digwyddodd proses ddisgyblu mewnol, ac nid yw Mr Lang yn gweithio i’r bwrdd iechyd bellach”.

“Ers y cyfnod yma mae prosesau wedi eu hadolygu, newid wedi ei gyflwyno ac mae’r bwrdd yn dal wedi ei ymrwymo’n llwyr i ddiogelwch yr holl gleifion yn ein gofal,” meddai Carol Shillabeer.


Source link

See also  UK government halts Ajax trial after soldier falls ill in another vehicle

Check Also

John Mousinho: Portsmouth boss ‘furious’ over Krystian Bielik incident account

Portsmouth head coach John Mousinho says he was “absolutely furious” at the position he says …

Llanrwst library books overdue by 116 years returned in ‘excellent condition’

A man has returned his late grandfather’s library books which were overdue by 116 years. …

Billy Boston funeral to take place

At the request of the Boston family, people attending are being encouraged to wear traditional …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime