google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Corff dyn wedi ei ddarganfod mewn sgip – cwest

Clywodd cwest fod corff dyn wedi ei ddarganfod gan weithwyr wrth iddyn nhw wagio sgip mewn canolfan ailgylchu yn Sir y Fflint.

Fe ddaeth hi i’r amlwg yn ddiweddarach mai Vitalij Maceljuch, 36, o’r Wcráin oedd y dyn fu farw.

Roedd ganddo anafiadau i’w ben a’i asgwrn cefn.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi dweud nad oedd amgylchiadau amheus i’r farwolaeth.

Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun, dywedodd y crwner John Gittins bod gweithwyr yng nghanolfan Thorncliffe yn Ewlo wedi dod o hyd i gorff Mr Maceljuch wrth iddyn nhw wagio eitemau o sgip i lori fin ar 10 Mai.

Dywedodd bod “ymchwiliadau wedi dechrau ac yn parhau”.

Dywedodd y patholegydd Dr Jonathan Metcalfe fod gan Mr Maceljuch anafiadau mawr i’w ben a’i asgwrn cefn, a’r gred ydy bod hynny wedi digwydd wrth i’w gorff gael ei symud o’r sgip i’r lori.

Cafodd y cwest ei ohirio a bydd gwrandawiad llawn ar ddyddiad sydd eto i’w bennu.


Source link

Advertisements

See also  Lloyd Fairbrother: Dragons prop forced to retire aged 32

Check Also

Vitor Matos: Swansea boss confirms double injury blow for Norwich

Swansea City will be without both Josh Key and Stephen Eustaquio for the visit of …

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime