google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

ASau yn cerdded allan o’r Senedd wedi ail araith ddadleuol gan AS Reform

Advertisements

Yn gynharach yn y dydd, fe wnaeth prif chwip Reform, Llŷr Powell, amddiffyn yr araith wnaeth Mr Martin yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, gan ddweud bod angen i wrthwynebwyr gwleidyddol “ddod i arfer” â rhai sylwadau.

Mewn dadl Reform am wariant rhyngwladol ddydd Mercher, fe wnaeth Mr Martin jocio ei fod wedi cysylltu â “myfyrwyr Cymreig sydd wedi bod trwy ein system addysg sy’n cael ei danariannu, ond ni chefais ateb oherwydd ein bod wedi anfon e-bost atyn nhw a dyw nhw methu darllen”.

Wrth i bobl ymateb yn y siambr, dywedodd: “Edrychwch ar gyfraddau anllythrennedd myfyrwyr sy’n graddio.”

Ychwanegodd Mr Martin ei bod yn wych bod nyrsys yn cael eu recriwtio o India “oherwydd mae’n golygu y gall y Cymry a fyddai wedi dod yn nyrsys fel arall fynd ar gredyd cyffredinol yn lle”.

Dywedodd AS Caerdydd Ffynnon Taf, Zaynub Akbar, yn y cefndir: “Dwi’n mynd i adael oherwydd dydw i ddim yn derbyn dim o hyn a dydw i ddim eisiau bod yn rhan o hyn.”

Dywedodd ffynhonnell o Blaid Cymru fod y rhan fwyaf o’u ASau oedd yn gallu gadael wedi gadael. Fe wnaeth Mike Hedges o’r Blaid Lafur ac arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, gerdded allan hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru na fydd y blaid “yn sefyll wrth i Reform UK wneud hwyl am ben ein democratiaeth a gwneud hwyl am ben y cymunedau rydyn ni’n eu cynrychioli”.


BBC News

See also  Our sums add up, says Plaid leader over free childcare promise

Check Also

Oedi llawdriniaethau newid rhywedd er mwyn cynnal ‘adolygiad brys’

Mae atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd mewn clinig wedi cael eu hoedi er mwyn …

Rob Brydon ‘regrets’ turning down Dolly Parton interview

The Welsh actor and comedian’s debut children’s book – The Cat in The Cupboard – …

Wrexham news: More accomplished Red Dragons need ‘A game’ at Swansea

Swansea goalkeeper Lawrence Vigouroux played his part in an eye-catching team move that was rounded …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime