google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

AS Reform yn gwadu ceisio gwneud y mwyaf o’i threuliau

Advertisements

Yn ei chyfweliad llawn cyntaf gyda BBC Cymru ers i’r negeseuon ddod i’r amlwg, gofynnwyd i Ms Jones beth oedd hi’n ei olygu yn y neges.

“Rydw i wedi cael fy nghlirio gan yr heddlu achos ‘nes i fyth ddim o’i le,” meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi bod yn mynd trwy “uffern” a’i bod yn “edrych ymlaen i adroddiad y comisiynydd safonau ddod mas, fel y gallwn ni ddod â’r mater i ben”.

Pan ofynnwyd iddi eto beth roedd hi’n ei olygu, dywedodd: “Mae’n hawdd iawn, pe bawn i’n cymryd eich ffôn chi nawr er mwyn darllen rhywbeth heb unrhyw gyd-destun na dim byd arall, yn dyw hi?”

Gofynwyd iddi beth oedd y cyd-destun. Dywedodd: “Mae adroddiad yn dod mas yn fuan, yn does?”

Dywedodd y byddai hi’n “credu” fod hynny yn yr adroddiad.

Pan awgrymwyd iddi fod y neges yn ymddangos fel pe bai’n ceisio gwneud y mwyaf o’i threuliau, ychwanegodd: “Dydw i ddim, a dydw i erioed wedi.”

“Alla i eich sicrhau chi 100% mai hynny fydd yn dod i’r amlwg.”


BBC News

See also  Demi Mabbitt: Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth menyw 25 oed

Check Also

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yng Nghymru

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar gyfer Cymru …

Y ffenestri trawiadol sy’n dod â lliw i eglwysi Cymru

Mae gwydr lliw wedi cael ei ddefnyddio i addurno adeiladau yng Nghymru am dros 700 …

Stanley Tucci spotted trying Welsh cakes at Cardiff Market

Actor Stanley Tucci was spotted visiting the food stalls at Cardiff Market and trying some …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime