google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio saith wedi i fachgen, 6, gael ei anafu’n ddifrifol

Mae saith o bobl wedi’u harestio fel rhan o ymchwiliad Heddlu’r Gogledd i wrthdrawiad yn Sir y Fflint lle cafodd bachgen chwech oed ei anafu’n ddifrifol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Central Drive yn Shotton yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 17:30 ddydd Mercher.

Cafodd y plentyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Alder Hey ar ôl cael anafiadau allai newid bywyd.

Mae llanc 14 , dau ddyn 17 a 38 a dwy ddynes 41 ac 18 wedi’u harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn ogystal mae dynes, 24, wedi’i harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Mae pob un wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol yr heddlu tra bod eu hymchwiliad yn parhau.

Mae llanc, 16, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus ac am beidio â stopio yn lleoliad y gwrthdrawiad a pheidio â rhoi gwybod am y digwyddiad.

Mae e hefyd wedi cael ei holi gan yr heddlu a’i ryddhau ar fechnïaeth amodol.


Source link

Views: 0

See also  Anaf pen-glin ACL yn boen 'dwi erioed wedi'i deimlo o'r blaen'

Check Also

Sir Gareth Edwards: Wales legend steps down as Cardiff RFC director

Sir Gareth Edwards has resigned as a director of Cardiff Rugby Football Club after more …

Louie Hennessey: Bath centre to miss Wales’ summer games with shoulder injury

The opening game of Wales’ summer series is a double-header against the Barbarians at Allianz …

Gwrthod yr apêl yn erbyn hyd dedfryd am farwolaethau padlfyrddwyr

Gwrthod cais cyn-berchennog cwmni padlfyrddio am ganiatâd i apelio yn erbyn hyd ei dedfryd am …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.