google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Diabetes math 1: ‘Diolch bod ‘na ffordd i fyw gyda fe’

Oedd e’n rhyddhad bod rheswm am y colli pwysau a’r symptomau ac o’n i mor falch o gael byw gyda fe. O’n i’n meddwl, mae hwn yn sialens, mae’n rhaid i fi fyw gyda fe nawr a diolch bod ‘na ffordd i fyw gyda fe.

Dwi’n credu oedd e’n sialens mwy i’r teulu. Roedd rhaid iddyn nhw addasu a helpu fi. O’dd Mam yn gorfod berwi yr injections. Oedd yr injections yn rhai gwydr ac er mwyn sterilizeio nhw o’n ni’n gorfod berwi nhw fel poteli plant.

Oedden nhw’n dda yn Ysbyty Treforus am helpu fi i ymarfer injectio ar oren. Ac wedyn i injectio’r insulin yn y bola neu yn y breichiau ddwywaith y dydd.

Roedd rhaid i fi brofi’r wrin i weld faint o siwgr oedd yno, roedd e’n newid lliw. Roedd e gyd yn balafar a gorfod watcho beth o’n i’n bwyta hefyd.

O’n i’n gallu bwyta popeth ond ddim pethau fel cakes. Rheoli’r carbohydrates oedd e a phwyso faint o datws oedd ar y plât, ac ati.

O’ch chi’n clywed beth oedd y sgil effeithiau hir dymor, ac o’n i’n meddwl, byddai’n mynd yn dall. Mae lot o gymhlethdodau yn gallu dod gyda fe so o’n i’n meddwl mae’n rhaid i mi fod yn strict.

Pan o’n i’n mynd lawr i’r clinig, o’n i’n clywed y menywod yn siarad ac un yn dweud, “Fi ffaelu cael plant achos bod fi’n diabetig”, ac o’n i’n meddwl, o diar. Ond na, doedd hwnna ddim wedi digwydd i fi, a ges i dri o blant.


BBC News

Advertisements

See also  'Blwyddyn gythryblus arall i'r byd amaethyddol'

Check Also

Plaid Cymru aim for new FTSE 100 company within 10 years

The Plaid Cymru government will create the economic conditions for another Welsh company to join …

Cardiff 40-27 Zebre: Welsh side seal URC bonus-point victory against Italians

Cardiff: Beetham; Millard, Malan, B Thomas, Bowen; Sheedy, Mulder; Sio, D Hughes, Sebastian, McNally (capt), …

Cefn Cribwr man who murdered wife given life sentence

David Elias KC, defending, said Davies had shown remorse because he had accepted that he …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime