Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Abertawe.
Cafodd swyddogion eu galw i Heol y Cwm yn ardal Hafod toc wedi 12:00 brynhawn Mercher yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu.
Fe gadarnhaodd yr heddlu fod dyn 31 oed o Waunwen, dyn 49 oed o Gendros, dyn 37 oed o’r Strand a dyn 39 oed o Dreforys wedi eu harestio.
Mae swyddogion yn parhau ar y safle, ac mae disgwyl y bydd Heol y Cwm ar gau am gyfnod hir wrth i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.
Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!