google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Brwydr yr iaith yn ysbrydoli Gwyddel o Belfast i ddysgu Cymraeg

Advertisements

Ond pa mor anodd yw ymarfer siarad Cymraeg â Paddy’n byw’n Belfast?

“Mae’n heriol ond dwi’n gwylio S4C, gwrando ar Radio Cymru neu gwneud ychydig o Say Something in Welsh neu ddarllen ychydig bach bob dydd.

“Dwi wedi sylwi yng Nghymru mae llawer mwy o ddeunyddiau ar gael i ddysgwyr, mwy nag i ddysgwyr Gwyddeleg.”

Ond yr hyn sbardunodd Paddy i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf oedd adlewyrchu ar ei blentyndod yn Belfast a sylwi nad oedd yn ymwybodol o’r iaith Wyddeleg nes ei fod yn yr ysgol.

Eglurodd: “Pan o’n i’n blentyn do’n i ddim yn gwybod bod iaith Wyddeleg gyda ni yn Iwerddon.

“Mae llawer o bobl yma’n siarad Saesneg ond pan o’n i’n yr ysgol fe wnes i sylwi bod iaith Wyddeleg gyda ni felly dechreuais i ddysgu Gwyddeleg.

Ac ar ôl trip i Gymru ddwy flynedd yn ôl a chwrs preswyl yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn, roedd ganddo awch i ddysgu’r Gymraeg o ddifrif.

Dyweddodd: “Ro’n i wrth fy modd yn dysgu yn Nant Gwrtheyrn, es i i’r dafarn leol yn Llithfaen i sgwrsio gyda phobl leol.

“Ges i gwpwl o nosweithiau bendigedig yn canu a dysgais i gwpwl o ganeuon yn Gymraeg. Dwi’n caru siarad efo pobl.”


BBC News

Views: 0

See also  Flamingo 'on the run' from wildlife sanctuary

Check Also

Lluniau harddu bro Eisteddfod Y Garreg Las

Mae trigolion ardal bro Eisteddfod Y Garreg Las wedi bod yn brysur yn addurno eu …

Defensive woes, attacking bluntness: What do Newport County need?

The greatest concern, however, is in attack. Newport scored just 48 league goals last season, …

Pam bod 2/3 myfyrwyr Cymraeg ddim yn astudio trwy’r iaith yn y brifysgol?

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: “Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Good tide edibles. My name necklace bracelet archives.