google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn ar ôl i fachgen 11 oed gael ei daro gan gar

49d2fa90 323e 11f0 99e4 1f881fd90e09.jpg

Advertisements

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen 11 oed gael ei daro gan gar.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Kia Ceed coch a’r bachgen ar Gelli Avenue yn Rhisga, Sir Caerffili tua 15:30 ddydd Iau.

Cafodd y bachgen ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.

Cafodd gyrrwr y Kia, dyn 45 oed o Risga, ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac achosi anaf trwy yrru’n ddiofal neu’n anystyriol.

Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau barhau.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.


BBC News

See also  Archesgob Cymru Andy John yn ymddeol wedi cyfnod cythryblus

Check Also

Arestio dyn wedi i gar gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i’r heddlu stopio car a oedd yn …

Galw am ‘ymyrraeth frys’ mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd

Dywedodd AGIC eu bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch Nant-y-Glyn ond nad oeddent am wneud …

Network Rail yn erlyn dau gwmni am £5m wedi damwain trên Llangennech

Mewn dogfennau llys, sydd wedi’u gweld gan y Press Association, honnodd Network Rail bod y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime