google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Archesgob Cymru Andy John yn ymddeol wedi cyfnod cythryblus

6b6a3c40 2cc1 11f0 8f57 b7237f6a66e6.jpg

Advertisements

Nos Wener, fe gyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad yn diolch i Andy John am ei wasanaeth.

Doedd dim sôn am y digwyddiadau diweddar yn esgobaeth Bangor.

Dywedodd y Parchedicaf Andrew John ei fod wedi “bod yn llawenydd enfawr i wasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru ers dros 35 mlynedd” a diolchodd i “glerigwyr a chynulleidfaoedd yr esgobaeth wych hon”.

Dywedodd yr Esgob Gregory Cameron, Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru: “Mae Andy wedi cysegru dros bum mlynedd ar hugain o’i fywyd i weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu gydag ymroddiad ac egni i gyhoeddi’r Efengyl Gristnogol a denu pobl at ffydd ddyfnach yn Iesu Grist.

“Mae wedi rhoi cymaint er lles yr Eglwys yng Nghymru.

“Mae bellach yn ildio’i gyfrifoldebau sylweddol, a hynny yn yr un ysbryd sydd wedi nodweddu ei wasanaeth dros y degawdau hyn.”

Dywedodd Medwin Hughes, Cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr yr hoffai “ddiolch yn ddiffuant am bopeth y mae wedi’i gyflawni, a mynegi fy edmygedd o ddidwylledd ei weinidogaeth dros bobl Cymru”.

Bydd pob aelod o Gorff y Cynrychiolwyr yn parhau i gadw’r Archesgob a’i deulu yn eu gweddïau.”

Daeth Andy John yn Esgob Bangor yn 2008 a chafodd ei eithol yn Archesgob Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Ef yw’r 14eg person i gael y teitl.


BBC News

See also  Cais cynllunio canolfan antur Bae Ceibwr wedi'i dynnu'n ôl

Check Also

Arestio dyn wedi i gar gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i’r heddlu stopio car a oedd yn …

Galw am ‘ymyrraeth frys’ mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd

Dywedodd AGIC eu bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch Nant-y-Glyn ond nad oeddent am wneud …

Network Rail yn erlyn dau gwmni am £5m wedi damwain trên Llangennech

Mewn dogfennau llys, sydd wedi’u gweld gan y Press Association, honnodd Network Rail bod y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime