google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Araith iaith arwyddion cyntaf Palas Buckingham gan Gymraes

Roedd araith Hafwen yn rhan o ddigwyddiadau ym Mhalas Buckingham oedd yn dathlu llwyddiant dros 8,000 o bobl ifanc sydd wedi cwblhau gwobr aur Dug Caeredin mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a llefydd gwaith ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Er mwyn cael gwobr aur, mae pobl ifanc wedi treulio o leiaf blwyddyn yn gwneud gweithgareddau corfforol, dysgu sgiliau, mynd ar daith gerdded dros nos a gwirfoddoli.

Dywedodd Ruth Marvel o Wobr Dug Caeredin: “Mae’r bobl ifanc sydd yma heddiw wedi llwyddo i wneud rhywbeth arbennig iawn, ac mae’n hyfryd gweld pawb yma yn dathlu ac yn rhannu eu profiadau.

“Bwriad y wobr ydy dangos bod unrhyw beth yn bosib ac mae’r bobl ifanc yma wedi dangos i’r byd nad oes terfyn i’r posibiliadau. Allai ddim aros i weld be’ fydd eu camau nesaf nhw.”

Yn ei araith, dywedodd y gofodwr Tim Peake wrth y bobl oedd yn derbyn eu gwobr: “Wrth i chi wynebu’r bennod nesa’ yn eich bywydau, dwi’n eich annog chi i anelu’n uchel ac i freuddwydio am y peth gorau posib, a chofiwch y gallwch chi wneud unrhyw beth.

“Mae pob un ohonoch chi wedi dangos eich bod yn benderfynol drwy ennill y wobr aur, a does dim dwywaith y gwnewch chi wynebu heriau eraill yn y dyfodol.”


Source link

Views: 0

See also  Plaid Cymru'n addo 'hybiau llawfeddygol' i daclo rhestrau aros

Check Also

Cinio rhost yn y bore i ddisgyblion sy’n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, y byddai’n hoffi gweld …

‘Uproar’ when children from England want Welsh education in Powys

Powys councillor James Gibson-Watt told the BBC: “As a county that borders a significant number …

Sul y Tadau: Y tad a’i ddau fab o Fangor sy’n caru snwcer

Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i’w tad am fod yn athro …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
aaa mush love. Learn more about troubleshooting wordpress.