google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Dick Krzywicki: Mab i garcharwr Auschwitz a chwaraeodd dros Gymru

Mae 27 Ionawr yn nodi 80 mlynedd ers i’r Cynghreiriaid ddarganfod erchylltra Auschwitz a rhyddhau miloedd o garcharorion.

Aeth Byddin Goch Rwsia i fewn i Auschwitz, y gwersyll crynhoi rhwng dinasoedd Katowice a Kraków yng Ngwlad Pwyl, ar 27 Ionawr, 1945.

Dywed bod 1.1miliwn o bobl wedi marw yno – y mwyafrif ohonynt yn Iddewon, ond hefyd sipsiwn, hoywon, a lleiafrifoedd eraill. Mae’r cyfanswm a gafodd eu lladd yn yr Holocost o 1941 i 1945 yn oddeutu chwe miliwn.

Un o’r bobl a oroesodd yr hunllef o Auschwitz oedd Franciszek Krzywicki – gŵr ifanc o Wlad Pwyl.

Roedd Franciszek a’i wraig, Anna, yn byw yn Yr Eidal ar ôl yr Ail Ryfel Byd, wedi i’r Cynghreiriaid eu rhyddhau o ormes y Natsïaid.

Helpodd y Groes Goch y ddau i symud i Brydain yn 1946, a blwyddyn yn ddiweddarach, yn Chwefror 1947, ganed eu mab Ryszard (Dick) Lech Krzywicki yn Llannerch Banna, ger Wrecsam.

Cafodd Dick yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol, gan chwarae y rhan fwyaf o’i yrfa gyda West Bromwich Albian ac Huddersfield Town. Chwaraeodd hefyd dros dîm cenedlaethol Cymru rhwng 1969 a 1971.


BBC News

Advertisements

See also  Celtic Challenge: Clovers beat Lightning to book spot in the final

Check Also

Tata Steel talks ongoing amid reports electric arc furnace faces delays

Speaking at a conference fringe event, the Aberafan Maesteg MP was asked about reports that …

Angela Shellis Channel 4 documentary reveals insights into son who murdered mum

During Roberts’ sentencing, the court heard the first Dictaphone message said: “This is Tristan Roberts. …

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime