google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Angen ‘sefydlogrwydd’ ar Lafur y DU, meddai’r Prif Weinidog yn y gynhadledd

Advertisements

Nid yw’r dadansoddiad wedi ei rannu’n llawn gyda’r BBC, ac felly nid yw’r honiadau wedi’u gwirio’n annibynnol eto.

Er hyn, mae’r BBC yn deall bod y cyfrifiadau’n tybio y byddai Llywodraeth Cymru annibynnol yn parhau i wario yr un swm ar yr un meysydd ag y mae llywodraeth y DU yn ei wario ar hyn o bryd yng Nghymru ar feysydd y maen nhw’n eu rheoli.

“Os yw Plaid Cymru eisiau cael eu cymryd o ddifrif, mae angen iddynt gadarnhau a ydynt yn mynd i drethu teuluoedd Cymru i dlodi neu dorri gwasanaethau cyhoeddus i’r asgwrn,” bydd Stevens yn ei ddweud.

“Mae Llafur wedi dod â chyni ariannol i ben yng Nghymru. Peidiwch â gadael i Blaid Cymru ei orfodi ar Gymru eto.”

I’r gwrthwyneb, bydd hi’n dweud y bydd llywodraeth y DU yn buddsoddi mwy na £200m i adfywio strydoedd mawr ac adfywio cymunedau yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae Jo Stevens wedi dewis defnyddio llwyfan ei chynhadledd i siarad yn negyddol am Gymru ar adeg lle mae mwy a mwy o bleidleiswyr Llafur yn symud draw at Blaid Cymru gyda’n gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein cenedl a’n cred yn ein potensial.

“Wrth i Lafur frwydro am berthnasedd, mae pobl Cymru yn gwybod yn y bôn fod yr esgid yn gwasgu yn sgil yr hyn sy’n digwydd o dan oruchwyliaeth Llafur.”


BBC News

Views: 0

See also  Last-gasp passes, 'Breece Lightning' & 95-yard touchdown - best plays

Check Also

United Rugby Championship: Leinster 68-14 Ospreys – Irish province warm up for final with emphatic win

Leinster warmed up for next week’s Champions Cup final against Bordeaux-Begles in Bilbao by scoring …

Protestiadau ar draws Cymru dros lygredd carthffosiaeth

Dywedodd Meg Davies o’r elusen Surfers Against Sewage, sydd hefyd yn byw’n lleol, fod y …

Matt Bush overcomes ‘sleepless nights’ to win Euro gold

Matt Bush says he will continue to rise to the challenges he faces in Para-taekwondo …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.