google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Babi naw mis wedi marw o anaf i’w ben ar ôl ymosodiad gan gi – cwest

Advertisements

Bu farw bachgen naw mis oed o anaf i’w ben yn dilyn ymsodiad gan gi yn Sir Fynwy yn gynharach y mis hwn, mae cwest wedi clywed.

Fe glywodd Llys y Crwner Gwent fod Jonte William Bluck yn aros yn nhŷ ei dad ym mhentref Rogiet ar 2 Tachwedd “pan gafodd ei frathu gan gi y teulu”.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.

Ddydd Llun wrth agor y cwest nodwyd fod y plentyn wedi marw cyn cyrraedd yr ysbyty.

Fe wnaeth archwiliad post mortem cynnar ddangos mai achos y farwolaeth oedd “anaf cywasgedig [compressive] i’w ben yn unol â brathiad gan gi”.

Fe wnaeth y crwner, Rose Farmer, ohirio’r cwest nes bod gwrandawiad llawn yn digwydd ar 4 Awst 2026.


BBC News

See also  Agor cwest i farwolaethau dau gaiaciwr aeth ar goll oddi ar arfordir Pwllheli

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime