google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Angen i deuluoedd siarad am roi organau’

Mae’r Parchedig Wyn Thomas yn gorfod treulio tridiau’r wythnos mewn ysbyty am nad yw ei arennau yn gweithio mwyach.

Ers dechrau Awst, mae’n gwbl ddibynnol ar driniaeth dialysis yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth – a hynny nes ei fod yn cael trawsblaniad aren.

Ar ddechrau wythnos codi ymwybyddiaeth am roi organau, mae’n dweud ei bod yn hollbwysig i deuluoedd siarad â’i gilydd am eu dymuniadau.

Ers 2015 yng Nghymru os nad yw person yn optio allan o’r cynllun rhoi organau, bydd organau’r person hwnnw yn cael eu rhoi i berson arall wedi marwolaeth.

Ond mewn rhai achosion mae teuluoedd yn gwrthwynebu rhoi organau anwyliaid ac mae’n anodd i lawfeddyg fynd yn groes i’w penderfyniad mewn amgylchiadau anodd.

“Dyna’r union reswm pam bod yn rhaid i deuluoedd siarad,” medd Mr Thomas, o Dre-fach yn Sir Gaerfyrddin, “ac yn sicr rydw i a’r gŵr wedi trafod hynny droeon.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog pobl i roi gwybod i’w teuluoedd am eu dymuniadau.


Source link

See also  Swansea City agree deal to sign defender Cameron Burgess from Ipswich Town

Check Also

Bonnie Tyler: Family’s thanks for compassion after funeral

Tyler’s family thanked Only Men Aloud “for the beautiful singing during the service and after”. …

Netball: Reinga Bloxham to take interim charge of Welsh Feathers

LexisNexis Dragons head coach Reinga Bloxham will take charge of Wales for their upcoming Netball …

Carcharu dyn am achosi anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad 140mya

Clywodd y llys fod Max Oliver Ianto Dangerfield, oedd yn 18 oed ar y pryd, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime