google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Angen gwella safon prydau ysgol am ddim’

Mae Cymru “ymhell” o gael rhwydwaith bwyd lleol a allai helpu i ddarparu prydau ysgol, yn ôl academydd blaenllaw.

Yng Nghymru, mae pob plentyn ysgol gynradd yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.

Fe ddaeth polisi Llywodraeth Cymru i rym ym mis Medi 2022.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd Kevin Morgan, Athro yn Adran Ddaearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, fod angen i brydau ysgol am ddim fod yn “fwy cost-effeithiol, yn iachach, ac yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd”.

“Pe baem yn dymuno cael bwyd cwbl leol fel pryd ysgol yfory fyddai hynny ddim yn bosib,” ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym eisiau’r cynnig bwyd ysgol gorau yn y DU i roi’r dechrau iachaf i fywyd i’n plant.

“Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn golygu bod pob plentyn yn cael cynnig pryd maethlon.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n hawdurdodau lleol i gynnig y bwyd gorau posib mewn ysgolion. Dros y flwyddyn nesaf rydym yn diweddaru ac yn gwella ein rheoliadau bwyta’n iach.”


BBC News

Advertisements

See also  Cymru Premier: Barry extend perfect start as Haverfordwest finally score

Check Also

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Prince of Wales tells villagers ‘holistic’ approach is needed on flooding

On Thursday, the royal spoke to villagers Rod and Helen Wyatt at their garden gate …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime