‘Angen cael gwared ar y terfyn budd-dal lles dau blentyn’

We are an affiliate

Newsatw.com is a participant in the Amazon Services LLC Associates Program, an affiliate advertising program designed to provide a means for sites to earn advertising fees by advertising and linking to Amazon.co.uk.“As an Amazon Associate, I earn from qualifying purchases.”

Pan ofynnodd aelod o’r gynulleidfa sut y byddent yn “brwydro dros oroesiad” y GIG yng Nghymru, mynegodd holl gynrychiolwyr y pleidiau bryder am restrau aros.

Dywedodd Mr Gething fod “pobl yn aros yn rhy hir” am driniaeth yng Nghymru.

Yn ôl Mr Lewis mae’r diwylliant rhestrau aros yn “gywilyddus”, gan ychwanegu y byddai Reform yn cael gwared ar y capiau ar nifer y staff meddygol sy’n gallu cael eu hyfforddi yn y DU.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dioddef “ergyd ddwbl” o lymder gan y Ceidwadwyr a chamreolaeth gan Lafur Cymru.

Dywedodd Ms Dodds fod y GIG yng Nghymru “yn teimlo fel ei fod wedi torri”, gan ychwanegu y byddai lwfans gofal uwch yn caniatáu i bobl aros “yn eu cartrefi gydag urddas”.

Ond dywedodd Mr Davies nad yw “cyllid yn esgus” i 20,000 o bobl “aros mwy na dwy flynedd” am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae’r etholiad ymhen llai na phythefnos, ar 4 Gorffennaf




Source link

Check Also

‘Hunllef’ cyn-Miss Cymru o glywed lleisiau am niweidio ei mab

We are an affiliateNewsatw.com is a participant in the Amazon Services LLC Associates Program, an …

Leave a Reply