google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Ansicrwydd’ yn rheswm dros beidio ag ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Advertisements

Yn ôl y gyfreithwraig, Awel Mai Hughes “mae’r ffigyrau’n sicr yn mynd i fod yn siom i’r llywodraeth”.

“Mae lot fawr o adnoddau, arian a chynghori ‘di mynd mewn i’r cynllun yma dros ddegawd,” meddai.

A hithau wedi bod yn cynghori ffermwyr ar y cynlluniau newydd, dywedodd ar raglen Dros Frecwast bod amrywiaeth o resymau pam nad ydy ffermwyr wedi ymuno â’r cynllun.

Mae’r newidiadau fydd yn digwydd yn rhai hirdymor, all newid tirwedd ffermydd meddai gyda “rhai yn poeni – a fydd newidiadau o dan lywodraeth newydd ym Mae Caerdydd.”

Eraill “ddim yn gweld o’n broffidiol o gwbl i’w busnes nhw a mae’n well iddyn nhw wneud defnydd llawn o’r fferm yn gyfan na rhoi fyny ardaloedd i fod yn dir cynefin a choed”.

Aeth ymlaen i esbonio os nad ydy ffermwyr yn ymuno mi fyddan nhw’n cael llai o incwm ond mae’n pwysleisio mai’r “cam cyntaf ydy hyn wrth gwrs – mae ffermwyr yn gallu mynd mewn iddo fe flwyddyn nesaf”.

Mae’n gobeithio fydd y llywodraeth newydd yn “gwrando ar adborth ffermwyr i greu cynllun sy’n gweithio i bawb”.

“Dydy polisi ddim gwerth dim byd os nad ydy’r bobl ar lawr gwlad yna i weithredu’r polisi.

“Dydy’r llywodraeth methu cyrraedd eu nod amgylcheddol heb fod ffermwyr yn ‘neud eu gwaith ac mae’r bartneriaeth yna’n hollbwysig.”


BBC News

Views: 1

See also  Seren Wrecsam am wneud ei thad yn falch wrth baratoi am ffeinal

Check Also

Dwi wedi dysgu gwersi bywyd ar ôl colli fy llais ers misoedd – AS Môn

Mae’n dweud bod ei llais wedi cryfhau dros wythnosau diweddar, er ei fod “dal yn …

Commonwealth Games: Meet the Welsh wheelchair 3×3 basketball couple

Phillips hopes the team can inspire the next generation of athletes. “At eight years old, …

'Nes i orfod ailystyried fy nyfodol ar ôl i IVF fethu'

Ar ôl i Shosh a Carwyn roi’r gorau i IVF, roedd rhaid ailfeddwl sut roedd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime