google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Seren Wrecsam am wneud ei thad yn falch wrth baratoi am ffeinal

Ef087e70 2110 11f0 8c2e 77498b1ce297.jpg

Mae tipyn wedi newid i Lili Mai Jones ers i’w thad farw’n sydyn bedair blynedd yn ôl.

Mae’r chwaraewr ifanc wedi bod yn chwarae rhan allweddol yn un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Bydd un o uchafbwyntiau ei gyrfa ifanc yn siŵr o ddod ddydd Sul, wrth i Wrecsam herio Caerdydd yn ffeinal Cwpan Cymru.

Yn rhan o’r clwb ers yn chwech oed, mae Lili, 19, bellach yn cydbwyso bywyd prifysgol â chwarae pêl-droed ar lefel led-broffesiynol.

“Mae’r cydbwysedd yna bron yn amhosib,” cyfaddefa Lili, sy’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd hefyd wedi cael blas ar sylwebu.

“Dwi’n ‘neud lot o ddreifio rhwng Bangor a Wrecsam. Dwi ‘nôl a ‘mlaen tair gwaith yr wythnos o leiaf.

“Mae yn anodd, ond ar yr un pryd, mae’n ddau beth dwi rili isio gwneud.

“Dwi rili isio astudio’r Gymraeg a dwi rili isio chwarae pêl-droed dros Wrecsam.”


BBC News

Advertisements

See also  Cael tâl tra'n hyfforddi'n helpu denu athrawon uwchradd

Check Also

Llywodraeth Cymru i edrych ar rymoedd gynghorau – Rhun ap Iorwerth

Mae datblygu economaidd yng Nghymru wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond dywedodd Mr ap Iorwerth …

‘Mae Aberfan wedi siapio ni fel y bobl rydyn ni heddiw’

Un o gyn-ddisgyblion ysgolion Rhyd-y-Grug a Rhydywaun yw Jack Lewis. Ar ôl astudio celf yn …

Aberfan fire engine reunited with first man who called for help

Just before the 60th anniversary of the disaster, Evans was reunited with a remarkable piece …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime