google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Alys Hedd Jones yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn

Mae’r ddrama fuddugol ‘Amserlen’ yn stori am ddwy ffrind sydd wedi ffraeo, ac am benderfyniad a fyddai’n newid eu bywydau am byth.

Meddai’r beirniaid: “Dyma ddrama agos atoch oedd yn ein annog i barhau i ddarllen o’r cychwyn cyntaf. Mae’r ddeialog yn fachog, gwych gyda chysyniad syml ond theatrig sydd yn llwyddo i ddal y boen a’r dasg amhosib o ollwng gafael ar y gorffennol. Mae’n archwilio rhywbeth mor gymhleth mewn ffordd agos atat ti a llawn calon.”

Yn ail yn y gystadleuaeth yr oedd Annell Dyfri o Langynnwr, ac Alaw Jones o Lanbedr Pont Steffan oedd yn drydydd.

Bydd Alys yn treulio amser gyda Chwmni’r Theatr Genedlaethol ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC.

Derbyniodd Alys fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron. Rhoddir y Fedal er cof am Meinir Wyn Jones, cyn-drefnydd yr Urdd Maldwyn, gan Menna a’r teulu.

Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn theatr a cherddoriaeth ac mae hi’n mwynhau ysgrifennu, actio, canu a chyfansoddi caneuon.

Bydd gwaith Alys yn cael ei gyhoeddi ar ffurf pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.

Bydd gwaith Annell ac Alaw a’r feirniadaeth lawn ar gael ar wefan yr Urdd cyn diwedd y dydd.


Source link

Views: 0

See also  'Arwyddocaol' cael cwrs meistr fferylliaeth newydd yn y gogledd

Check Also

Drama about Worboys an important story to tell, says actress

Believe Me tells the story of the victims of one of the most prolific sex …

Gareth Bale more ‘complete’ than Cristiano Ronaldo – Manchester United’s Casemiro

Manchester United’s former Real Madrid midfielder Casemiro says Cristiano Ronaldo is the greatest footballer he …

Women’s Six Nations: Wales players back boss Sean Lynn 100% before Italy game

Sean Lynn took over at the start of the 2025 Six Nations and could be …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Creator of cinepunch and premiere pro fx. Just a moment.... And match results in real time to ensure you never miss a moment of the action.