google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes mewn ‘poen parhaus’ ar ôl llawdriniaeth ddim am ddioddef yn dawel

Advertisements

Cafodd Kerry Watson, 40 o Fae Cinmel yn sir Conwy, y rhwyll wedi’i gosod i ddelio â phrolaps y bledren (bladder prolapse).

Ond deffrodd o’r llawdriniaeth mewn poen, sydd erioed wedi diflannu, oedd yn gwaethygu dros amser.

“Roedd yn teimlo fel pe bai nodwydd yn mynd trwy fy nghefn, ac yn dod allan o’m blaen,” meddai.

“Mae’n effeithio ar eich iechyd meddwl. ‘Da chi’n cael meddwl niwlog a ‘da chi’n dioddef blinder.

“‘Da chi ddim yn gallu gweithredu fel dynes – a dyna’r sefyllfa bob dydd am 10 mlynedd.

“Dwi’n fam i dri o fechgyn, ond o’n i’n teimlo fel ‘mod i’n methu. Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, allwn i ddim hyd yn oed sefyll i’w gwylio nhw’n chwarae pêl-droed.

“Ar ôl 10 mlynedd, do’n i ddim yn gallu cerdded, do’n i ddim yn gallu gyrru, do’n i ddim yn gallu gwneud y pethau mae Mam fod i wneud dros ei phlant.

“Dyna pryd do’n i ddim eisiau bod yma o gwbl.”


BBC News

Views: 3

See also  Menai Bridge repairs delayed until 2027 after more problems found

Check Also

Y therapydd cerdd sy’n sgwrsio heb eiriau

Ar hyn o bryd mae Awen, sydd wedi arbenigo ar y soddgrwth yn y Royal …

Caernarfon mewn ras i godi £50,000 erbyn yr haf i chwarae yn Ewrop

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn fe ddywedodd Mr Evans nad yw’r clwb “yn gallu …

'You first thought is, is that the end of Port Talbot?': Steelworker's fears as fire breaks out

Fire leaves section of roof collapsed on a production line Tata Steel says is offline …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.