google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Addo cyflymu prosiectau ynni gwyrdd wedi rhybudd bod Cymru ‘ar ei hôl hi’

Advertisements

Mae maniffesto Reform UK Cymru yn cynnwys gwaharddiad ar ffermydd gwynt a solar newydd ar y tir, gan ddweud eu bod yn “difetha cefn gwlad Cymru”.

Dywedodd llefarydd fod y blaid hefyd wedi “cyhoeddi cynlluniau i leihau biliau ynni” trwy fynd i’r afael â chymorthdaliadau i’r sector ynni gwyrdd.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ynni Samuel Kurtz AS bod rôl i ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol, ar y cyd â “ffynonellau dibynadwy fel olew, nwy a niwclear”.

“Y flaenoriaeth yw sicrhau bod y prosiectau yma yn cynnig allbynnau go iawn: swyddi a sgiliau, buddsoddiad a buddion clir i gymunedau lleol.”

Mae’r blaid wedi ymrwymo i gefnogi twf ynni morol, gan gynnwys ffermydd gwynt sy’n arnofio, tra’n manteisio ar gyfleoedd i’r diwydiant niwclear yn Wylfa a Thrawsfynydd, meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds AS bod bargen newydd y llywodraeth yn arwain at “fwy o gwestiynau nag atebion”.

“Does yna ddim cynllun clir o ran sut ydyn ni’n adeiladu’r gweithlu sydd ei angen, dim manylder o ran hyfforddiant, sgiliau na phrentisiaethau,” meddai.

“Mae gweinidogion hefyd yn addo buddion i gymunedau, heb osod safonau, isafswm na gorfodaeth – felly does ‘na ddim gwarantu y bydd pobl leol yn elwa.”

Dywedodd llefarydd ynni Plaid Cymru Luke Fletcher AS y byddai’r blaid yn “adeiladu partneriaethau newydd rhwng llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol” yn ystod eu 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth, gan ddatblygu “Trydan Gwyrdd Cymru i fod yn un cwmni ynni cyfunol fydd yn datblygu ynni adnewyddadwy ac yn helpu lleihau biliau”.

“Mae pobl Cymru a’r sector ynni adnewyddadwy yn iawn i gwestiynu pam fod Llafur wedi bod heb strategaeth a heb gynlluniau go iawn ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy yn ystod eu cyfnod o 27 mlynedd mewn grym.”

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Anthony Slaughter bod pleidiau eraill yn ceisio efelychu’r Gwyrddion nawr eu bod yn codi yn arolygon barn.

“Mae’r targedau yn y cynllun hwn wedi eu codi yn syth o faniffesto’r Blaid Werdd – arwydd clir bod ein hapêl yn tyfu chwe wythnos cyn etholiad y Senedd,” meddai.

“Maen nhw ond yn gwneud hyn dan bwysau – mae’r Gwyrddion yn ddidwyll o ran credu bod ynni adnewyddadwy yn medru cyflawni ar gyfer newid hinsawdd ond wrth leihau biliau pobl hefyd.”


BBC News

Views: 2

See also  Wales have to test young players - Bellamy

Check Also

Ymgeisydd Reform a gamodd yn ôl dros lun saliwt i gynghori’r arweinydd

Ar ôl i’r llun ddod i’r amlwg yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Reform eu …

Beach-goers enjoy record May heat in New Quay, Wales

A seaside town was packed with visitors over the bank holiday weekend as people made …

Heledd Wynn Newton yw prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd

Heledd Wynn Newton o Gaerdydd sydd wedi ennill medal prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Ynys …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Hair cut & beard trim 23. research peptide storage case.