google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Achub chwech o blant o’r môr ar draeth yn Aberafan

Advertisements
Gwylwyr y glannauFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tîm achub eu galw i’r digwyddiad am tua 20:30 nos Sul

Mae Gwylwyr y Glannau Port Talbot yn dweud bod chwech o blant wedi cael eu hachub o’r môr ar ôl mynd i drafferthion ar draeth yn Aberafan.

Cafodd y tîm achub eu galw i’r “digwyddiad difrifol” am tua 20:30 nos Sul yn dilyn adroddiadau fod nifer o blant yn nofio yn y dŵr.

Fe lwyddodd swyddogion Gwylwyr y Glannau i dynnu tri o’r plant i’r lan yn defnyddio rhaff.

Er mwyn achub y tri phlentyn oedd dal yn y môr, fe aeth swyddogion i mewn i’r dŵr er mwyn eu casglu.

Cerbydau argyfwngFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau o’r plant eu cludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad

Roedd timau achub o wasanaeth Gwylwyr y Glannau Porthcawl hefyd yn rhan o’r ymateb i’r digwyddiad, yn ogystal â Heddlu’r De a’r Gwasanaeth Ambiwlans.

Cafodd y plant wedyn eu cludo i’r orsaf Gwylwyr y Glannau gerllaw, ble gawson nhw eu hasesu a’u monitro – cyn iddyn nhw gael eu hasesu yn ddiweddarach gan barafeddygon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans fod “dau glaf wedi cael eu cludo i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth, tra bod y pedwar arall wedi gwneud eu ffordd ei hunain i’r ysbyty”.

Nid oes unrhyw adroddiadau fod unrhyw un wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad.


BBC News

See also  'I have to use savings to afford to use university laundrette'

Check Also

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ym Mhort Talbot. Cafodd …

Racecourse Kop: Why a new stand has become symbolic for Wrexham

Then there are the new facilities. The dressing room areas and tunnel will move to …

MMA: Cris Cyborg snubs retirement after 30th win and calls out Claressa Shields & Kayla Harrison

Cris Cyborg appears set to continue her fighting career after a hard-fought points win against …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime