google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Creu swyddi newydd wrth i gwmni bwyd o’r gogledd ehangu

Advertisements

Cafodd cwmni bwyd Harlech ei sefydlu yn nhref Harlech yn 1972 gan Colin a Gill Foskett.

Y bwriad gwreiddiol oedd cyflenwi’r farchnad wyliau ond yn y blynyddoedd diwethaf mae’r cwmni wedi ehangu gan gyflenwi tai bwyta, tafarndai, ysgolion ac ysbytai ledled Cymru a rhai yn Lloegr.

Erbyn hyn mae plant y sylfaenwyr yn rhedeg y busnes.

Wrth i’r busnes dyfu mae’r cwmni yn bwriadu gwario £3.5 miliwn ar ehangu eu pencadlys yn Llanystumdwy, gan gynnwys adeiladu warws newydd, cyfleusterau rhewi bwyd a mwy o gerbydau dosbarthu.

Roedd yna 25% o gynnydd yn nhrosiant y cwmni y llynedd wrth iddyn nhw gael y gwerthiant uchaf erioed – £75 miliwn.

O ganlyniad, mae disgwyl i nifer y staff o fewn y cwmni godi o 320 i 370 yn ystod blynyddoedd nesaf.

Y nod o hyd yw cefnogi cynnyrch a chyflenwyr Cymreig.


BBC News

Views: 1

See also  Champions League: New Saints strength in depth crucial - Harrison

Check Also

Llywodraeth Cymru’n methu â phasio ei chyllideb atodol ar ôl colli pleidlais

Yn y drafodaeth, a oedd yn danllyd ar adegau nos Fawrth, dywedodd Huw Thomas o’r …

Man Utd news: Karl Darlow says move ‘a really special opportunity’

Manchester United’s latest signing Karl Darlow says he is “extremely proud” to sign for the …

Talbot Green man caught by FBI encouraging hoax ‘swatting’ 999 calls jailed

When police arrested Dare, they seized his electronic devices and found files relating to a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime