google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Canslo sioe Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig yn ‘siom i ni gyd’

Dywedodd Ifor Lloyd, sydd wedi bod yn aelod o’r gymdeithas ers degau o flynyddoedd, fod y newyddion yn “siom i ni gyd”.

Roedd y bridiwr enwog o Bennant yng Ngheredigion yn edrych ymlaen.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: “Mae unrhyw ddathliad yn achlysur i’w gefnogi – mae’n rhaid bod y trefnwyr wedi cael cymaint o siom.”

Er nad yw ar y cyngor bellach ychwanegodd Mr Lloyd: “Os o’n nhw’n teimlo bod cyn lleied wedi rhoi eu henw gerbron a bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol doedd dim llawer o ddewis gyda nhw.”

Er fod y gymdeithas wedi canslo’r digwyddiad dywedon nhw eu bod dal yn awyddus i ystyried ffyrdd eraill o nodi’r garreg filltir.

Felly maen nhw’n bwriadu bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal cystadleuaeth y beirniaid ifanc a oedd i fod i gael ei chynnal yn ystod y sioe.

Bydd y gymdeithas hefyd yn cysylltu â’r rhai hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad neu wedi’i noddi ynghylch trefniadau ad-dalu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Daeargryn bychan wedi taro'r canolbarth fore Llun

Check Also

Who was pardoned killer Ruth Ellis from Denbighshire?

At the time of Ellis’ execution, the British public was already questioning whether capital punishment …

Ruth Ellis o’r Rhyl yn cael pardwn 70 mlynedd ar ôl ei dienyddio

Mae Ruth Ellis, y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y Deyrnas Unedig, wedi …

Wrexham must ‘hold their nerve’ in transfer window – Phil Parkinson

Wrexham manager Phil Parkinson has urged patience during what he describes as a “slow” summer …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
अलीपुरद्वार : सशस्त्र सीमा बल के वाहिनी मुख्यालय में भारतीय स्टेट बैंक के साथ नक़ली नोट (currency) कार्यशाला का आयोजन।.