google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arolwg yn awgrymu bod dros 50% yn gwrthwynebu’r terfyn 20mya

Advertisements

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod “cyflwyno cyfyngiad 20mya yng nghymunedau Cymru wedi achub bywydau, ond roedd y ffordd roedd Llafur wedi rhoi’r terfynau ar waith yn llanast”.

“Fe wnaeth Plaid Cymru wthio am adolygiad o sut y cyflwynwyd 20mya, ac rydym yn falch o weld yr adolygiad hwnnw nawr yn digwydd.”

Yn ôl Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, nhw “yw’r unig blaid gall waredu’r terfyn 20mya a dod â’r rhyfel yn erbyn gyrwyr i ben.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau anafiadau. Mae ffigurau swyddogol yn dangos, rhwng Gorffennaf a Medi 2025, fod nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya 33% yn is nag yn yr un cyfnod yn 2023.”

“Rydym yn parhau i adeiladu ar y consensws, lle mae 20mya yn gyflymder cywir, ei fod yn gweithio’n dda.”

Yn ôl Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Drafnidiaeth a Seilwaith, Sam Rowlands AS, “mae terfyn cyflymder trychinebus Llafur a Phlaid Cymru o 20mya wedi arafu Cymru ac wedi dal ein heconomi yn ôl.

“Nid yw’n syndod bod cymaint yn erbyn y polisi, mae’r cyflwyniad wedi bod yn ddryslyd, yn anghyson ac yn gostus, gyda ffyrdd bellach yn cael eu newid yn ôl ar ôl i’r Llywodraeth wrthod gwrando yn y lle cyntaf.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod “cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya gan Lafur Cymru yn drychineb cysylltiadau cyhoeddus”.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i gefnogi cynghorau lleol a heddluoedd i wella diogelwch ffyrdd yn yr ardaloedd y maent yn eu hadnabod orau.”

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Werdd: “Mae terfynau cyflymder 20mya wedi achub bywydau ac atal anafiadau sy’n newid bywydau ers eu cyflwyno.

“Mae hefyd yn iawn bod cynghorau’n gallu penderfynu sut mae’r rhagosodiad cenedlaethol yn cael ei gymhwyso’n lleol.”


BBC News

Views: 3

See also  Sefyllfa'r celfyddydau yn 'hollol drasig' - Caryl Parry Jones

Check Also

'Sioc fawr' clywed bod gen i a'm chwaer ganser yr un pryd

Dr Harri Pritchard sy’n trafod y sioc o gael diagnosis o ganser y coluddyn a …

Nadine Griffiths appointed WRU director of women’s rugby

Former Wales international Nadine Griffiths has been appointed director of women’s rugby at the Welsh …

Labour first minister tells supporters to vote for Plaid Cymru in slip-up

Eluned Morgan told reporters “we’re all a little bit exhausted” after making the gaffe. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. Nitekim cassinox kullanıcı yorumları da bunu net bir şekilde kanıtlıyor.