google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Sefyllfa’r celfyddydau yn ‘hollol drasig’ – Caryl Parry Jones

9f3004a0 3b1d 11f0 91a0 abc9c23352d4.jpg

Yn y gynhadledd i’r wasg ar y maes dywedodd Caryl Parry Jones ei fod yn “gywilydd” fod y celfyddydau “ar waelod y rhestr wleidyddol”.

“Mae’r celfyddydau wastad yn rhywbeth maen nhw [gwleidyddion] yn meddwl allan nhw dorri i lawr arno fo,” meddai wrth BBC Cymru.

“Gwersi cerddoriaeth? Pfft, ‘di o ddim ots am hynna; y theatrau’n cau,” ychwanegodd.

“Oedd o’n dân ar fy nghroen i, clywed gwleidyddion yn d’eud, ‘o, peidiwch bod yn falerina, cerwch i fod yn gyfrifydd’.

“Mae’n drasig, mae’n hollol drasig.”

Ychwanegodd fod y celfyddydau yn “greiddiol” i fywyd pob dydd.

“Os na allwn ni gael y neges yna’n glir i’r rheiny sy’n gwneud y rheolau, dwi ddim yn gw’bod be’ fydd pwynt cymdeithas.”


BBC News

Advertisements

See also  Welsh NHS and schools underperforming, says think tank

Check Also

Mecanydd a ffugiodd MOT cyn gwrthdrawiad a laddodd tri yn cael gorchymyn cymunedol

Roedd teuluoedd y tair merch wedi rhoi gwybod eu bod ar goll ar noson 4 …

Ysgolion Meidrim a Llangyndeyrn i gau ddiwedd y flwyddyn

Cyn y cyfarfod dywedodd, Glyn Harbour, llywodraethwr yn Ysgol Meidrim ei fod yn poeni am …

Women’s World Cup play-off final: Why Norway win may not send Wales to Brazil

However, Finland’s semi-final victory against Serbia has changed the picture. As a League B runner-up, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime