google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Camgymeriadau wrth drin sepsis laddodd ein merch – rhieni

Advertisements

Mae Jane a Steve James, sy’n gyn-chwaraewr criced rhyngwladol, yn parhau mewn sioc dros “farwolaeth diangen” eu plentyn hynaf yn 2020.

Yn ôl ei thad: “Bethan oedd y person mwya’ caredig, gofalgar a chariadus. Roedd ganddi gymaint yn fwy i’w roi.

“Mae’n brifo eich calon wrth feddwl, ble byddai Bethan heddiw a beth fydde’ hi’n gwneud nawr?

“Rydym ni’n dal i barhau a bywyd o ddydd i ddydd, ond o dan hyn oll, mae torcalon llwyr a chymaint o adegau tywyll, tywyll. Mae’n fywyd hollol abnormal.”

Mae sepsis yn datblygu pan fo system imiwnedd y corff yn gorymateb i haint, gan ddechrau ymosod ar gelloedd a meinweoedd y corff.

Yn ôl The UK Sepsis Trust mae tua 48,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o salwch sy’n ymwneud â sepsis, gyda “miloedd” o’r rheiny yn farwolaethau yr oedd modd eu hatal.


BBC News

Views: 2

See also  Queen's Brian May leads bovine TB research to end badger cull

Check Also

Man denies racing brother before fatal crash, jury told

Rhys Jenkins died at the scene of the crash, while his son, Ioan, was airlifted …

Notting Hill and Love Actually actors star in film about Parkinson's disease

Rhys Ifans and Laura Linney are two people who have been diagnosed with Parkinson’s disease. …

Women’s World Cup qualifying: No Wales excuses despite travel disruption – Rhian Wilkinson

Montenegro is a key fixture for Wales as they fight it out with the Czech …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.