google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Chwaraeon, apiau, gigs – Sut mae cynyddu defnydd pobl ifanc o’r Gymraeg?

Advertisements

Mae ‘na deimlad bod defnydd o’r Gymraeg wedi dod yn fwy gweledol dros y blynyddoedd diwethaf – boed hynny yn sgil gwahanol ymgyrchoedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru neu weld yr iaith ar gyfres ‘Welcome To Wrexham’.

Yn ôl Huw Birkhead, sy’n diwtor Cymraeg llawn amser gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, mae’r clwb yn gweithio’n galed i hyrwyddo’r iaith ac annog pobl i’w defnyddio o amgylch y clwb o ddydd i ddydd.

“Prif rôl fy swydd i ydy dysgu Cymraeg i staff y clwb a hefyd dwi’n cynnal sesiynau blasu i gefnogwyr – mae gyda ni grŵp o gefnogwyr ar hyn o bryd sy’n ymuno o dros y byd – pobl o America, Canada, Gwlad Pwyl a Syria,” meddai.

“Mae ‘na lawer o bethau eraill yn digwydd i hyrwyddo’r iaith, gwneud podlediadau ar ôl gemau cartref, gwneud pethau yn y rhaglen swyddogol a chyfieithu arwyddion fel bod popeth yn ddwyieithog.

“Mae’r perchnogion ‘di neud yn wych i ysbrydoli pobl i roi tro arni, mae’r staff yn awyddus iawn a dwi’n siŵr bod hynny’n dod o weld y perchnogion. Mae’r prif weithredwr yn cael gwersi ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd fod llwyddiant a delwedd CPD Wrecsam ar hyn o bryd o bosib yn gwneud i bobl gysylltu’r iaith gyda rhywbeth “cool” ac y gallai hynny arwain at fwy o ddefnydd.


BBC News

See also  McLaren F1 teen hopes to inspire other women

Check Also

Michael Sheen says Wales should be asked if it wants Prince of Wales title back

Ayola last acted opposite Sheen 40 years ago when they were both teenagers, as part …

Cardiff City: Brian Barry-Murphy says he was backed in transfer window

There had been suggestions Cardiff wanted to strengthen up front, out wide and in defence. …

Wrexham news: Parkinson pleased to see transfer window close

Neither side managed a shot on target in the opening half at The Den, although …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime