google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Doedd neb yn gwrando’ – profiad merch o Wynedd o ganser gynaecolegol

Advertisements

Ddwy flynedd ar ôl i adroddiad pwysig gan y Senedd alw am welliannau brys mae menywod yng Nghymru yn dal i deimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed mewn gofal canser gynaecolegol.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni nifer o’u hymrwymiadau – ac mae’n nhw’n dweud bod yr ymateb wedi bod yn araf ac yn annigonol.

Un sydd wedi dioddef o ganser ar yr ofari yw Enlli Thompson o Ddyffryn Nantlle ac wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd bod angen mwy o addysg ar feddygon teulu.

“Am fisoedd roedden i’n mynd nôl a ‘mlaen- ‘nathon nhw ddim gyrru fi am unrhyw fath o brofion.

“Sai’n gwybod os taw fy oed i oedd e ond nath neb wrando arna i.

“Os bydden i heb ofyn am ail farn gan ddoctor fwy ‘senior’ falle bydden i ddim yma heddiw.”

Wrth ateb cwestiwn am y gwelliannau y byddai hi yn dymuno eu gweld, dywedodd: “Unwaith bues i gyda’r tim oncoleg roedd popeth yn iawn ond mae rhwbath angen newid o ran yr ochr GPs.

“Mae angen hyfforddiant a sensitifrwydd ac mae angen iddyn nhw wrando ar ferched.”

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod croesawu adroddiad y pwyllgor ac y byddan nhw’n ymateb yn ffurfiol maes o law ond y byddan nhw’n parhau i weithio gyda’r gwasanaeth iechyd i wella perfformiad a chanlyniadau canser.


BBC News

Views: 1

See also  URC: Scarlets insist rivals scared of their backs before Stormers game

Check Also

How Tom Wheeler’s hospital dream transformed adaptive mountain biking

Since first creating his brace, Wheeler’s design has received global attention. “It became really super …

‘Heriau’ i gynghorau wrth geisio cyflwyno gofal plant am ddim

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn aros am …

Plan to expand free childcare in Wales faces serious challenges, figures show

Councils are struggling to deliver the previous government’s more limited offer on childcare. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
waldems honig kaufen direkt vom imker.