google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn gwadu rasio ei frawd cyn gwrthdrawiad angheuol

Advertisements

Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus wedi dweud nad oedd yn rasio ei frawd a’i fod yn gyrru’n “ofalus” cyn y gwrthdrawiad.

Bu farw Rhys Jenkins, tad i ddau o Ddeuddwr ym Mhowys, wedi’r gwrthdrawiad ger Y Trallwng ar 16 Tachwedd y llynedd ac fe gafodd ei fab naw oed, Ioan, ei anafu’n ddifrifol.

Mae’r brodyr o Fanceinion, Umar Ben Yusaf, 34, ac Abubakr Ben Yusaf, 29, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, achosi niwed difrifol trwy yrru’n beryglus ac achosi marwolaeth tra’n gyrru heb yswiriant.

Dywedodd Umar Ben Yusaf wrth y rheithgor ei fod ef a’i frawd wedi gadael y fflat yr oedden nhw’n ei rannu yn Aberystwyth yn ystod yr wythnos i fynd yn ôl i Fanceinion ar noson y gwrthdrawiad.

Roedden nhw mewn cerbydau ar wahân, oedd wedi’u parcio mewn gwahanol leoliadau, a heb adael yr un pryd â’i gilydd, meddai.


BBC News

See also  VJ Day veteran says aftermath of atomic bombs was "hideous"

Check Also

Yr ysgolhaig a’r casglwr caneuon gwerin Roy Saer wedi marw yn 90 oed

Am flynyddoedd bu’n casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin Cymraeg, gan deithio drwy Gymru gyda …

Wythnos gyntaf yn ôl yn yr ysgol teulu o Ddyffryn Nantlle

Mae Guto yn naw oed ac ym mlwyddyn pump yn Ysgol Bro Lleu. Efallai y …

Merthyr Tydfil football win over Atalanta made into theatre play

Director Neil Maidman attended the famous fixture at Penydarren Park. “It was absolutely amazing. I …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime