google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ethan Ives-Griffiths ‘wedi’i fethu’ gan y system cyn ei farwolaeth – modryb

Advertisements

Dywedodd Becky Shone wrth BBC Cymru: “Dylai rhywun fod wedi cael golwg arno bob 10 diwrnod. Ond wnaeth hynny ddim digwydd, a dyna le cafodd ei fethu.”

Cafwyd Michael Ives, 47, a’i wraig Kerry, 46, yn euog o lofruddiaeth Ethan ym mis Gorffennaf, yn ogystal ag achosi neu ganiatáu ei farwolaeth, ac o greulondeb i blentyn.

Bu farw Ethan ym mis Awst 2021 ar ôl dioddef anaf trychinebus i’r ymennydd.

Honnodd yr erlyniad iddo gael ei achosi gan un ai ei nain, ei daid, neu’r ddau ohonynt.

Yn ystod y saith wythnos y bu’n byw gyda nhw, roedd Ethan wedi dioddef o ddiffyg maeth difrifol, diffyg dŵr, ac roedd ganddo fwy na 40 o anafiadau ar ei gorff pan fu farw.

Cafodd Ethan ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant ar ôl i’w fam Shannon, a’i dad Will Griffiths, wahanu ym mis Mehefin 2021.

Aeth y bachgen ifanc, ei frodyr a’i chwiorydd, a’i fam i fyw gyda Michael a Kerry Ives.


BBC News

Views: 0

See also  Sut mae staff gorsafoedd pleidleisio'n paratoi am yr etholiad?

Check Also

Welsh language policy has been misunderstood, says council

Councillors have criticised “negative” press reports, arguing the new policy will help staff to “upskill”. …

Sylw ‘Welsh lad?’ Arron Banks yn hiliol, yn ôl ymgeisydd Reform

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd sylw Arron Banks yn hiliol, ond mae Farage …

Chwaraeon y penwythnos: Sut wnaeth timau Cymru?

Gemau olaf cynghrair bêl-droed Lloegr, ffeinal gemau ail gyfle’r Cymru Premier a rownd gynderfynol Cwpan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Promo menarik pion777, menang berapapun pasti di bayar.