google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ruth Ellis: Y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain

Yn 1955 Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain. Roedd hi wedi ei chael yn euog o lofruddio ei chariad.

Mae cyfres ddrama deledu newydd wedi cychwyn ar ITV o’r enw A Cruel Love – The Ruth Ellis Story, sy’n sôn am ei bywyd hi.

Roedd hi’n Gymraes a chafodd hi ei geni yn y Rhyl yn 1926. Roedd ei mam, Elisabeta, o Wlad Belg, a’i thad, Arthur Hornby, yn gerddor o Fanceinion. Symudodd y teulu i Lundain yn 1941.

Yn 1953, roedd Ruth Ellis yn gweithio fel rheolwraig clwb nos pan wnaeth hi gyfarfod David Blakely, oedd yn dod o’r Amwythig.

Cafodd y ddau berthynas, ond erbyn dechrau 1955, roedd David Blakely yn dechrau colli diddordeb.

Ar 10 Ebrill 1955, saethodd Ruth ei chariad yn farw tu allan i dafarn Magdala yn Llundain.

Wedi ei chael yn euog o lofruddiaeth yn yr Old Bailey yn Llundain, cafodd Ruth Ellis ddedfryd o farwolaeth.


BBC News

Advertisements

See also  'Seren wib': Cofio Owain Rhys Davies

Check Also

Y rhedwraig o Ben Llŷn sy’n casau rhedeg

Dechreuodd Kelly redeg ar ôl colli ei mam i ganser y pancreas yn 2015, meddai: …

'Diagnosis i'n babi fel dringo mynydd, ac mae taith hyd yn oed yn fwy i ddod'

Dim ond tri pherson sy’n dioddef o’r un cyflwr â Rupert yng Nghymru a 1,500 …

‘Nes i bron golli fy nghoes – nawr fi’n rhedeg hanner marathon’

Ymhlith y 30,000 o bobl fydd yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, mae gan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime