google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Pryder’ am ddefnydd isel o’r Gymraeg yn y Senedd

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol gan y Comisiwn am eu darpariaeth o ran cydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn 2023-24.

Dywedodd Adam Price: “Byddaf yn trafod gyda fy nghyd aelodau o’r Comisiwn a fforymau allweddol eraill, megis Fforwm y Cadeiryddion Pwyllgorau, pa gamau ymarferol pellach y gallwn eu rhoi ar waith dros y misoedd nesaf gyda golwg ar geisio adfer perfformiad i lefelau blaenorol yn y lle cyntaf, ac i esgor ar ragor o ddefnydd o’r Gymraeg wrth i aelodau a’u staff gyflwyno busnes yn ysgrifenedig ac i ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn a’r Pwyllgorau maes o law.”

Ychwanegodd: “Fel aelodau, partneriaid, ac heb os, fel dinasyddion Cymru, rwyf am i ni herio’n gilydd a holi: beth mwy sydd angen ei wneud i sicrhau y gellir ymwneud yn llwyr ac yn ddirwystr â busnes a gwaith y Senedd yn Gymraeg, fel y gellir ei wneud yn Saesneg ar hyn o bryd?

“Sut mae sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol gydradd â’r Saesneg yn ein trafodion ac yng ngweinyddiaeth y Senedd?

“Ac yn bwysicach oll, sut ydym ni’n atebol i’r bobl ydym ni’n eu gwasanaethu – sef dinasyddion Cymru – am ein perfformiad ac yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech genedlaethol, drawsbleidiol, i gynllunio dyfodol i’r Gymraeg?”


Source link

Views: 1

See also  Datganiad y Gwanwyn: Toriadau i arbed £4.8bn o'r gyllideb les

Check Also

Cardiff Covid fraudster jailed over bogus £200,000 loans

Wagh applied for a second £50,000 Bounce Back loan for Talensetu, a recruitment company, in …

Watch: When Garfield Sobers hit six sixes in one over

It was the over that stunned world cricket. Sir Garfield Sobers became the first player …

William Weston Young watercolours expected to fetch thousands at auction

A series of watercolours by a Welsh ceramicist are to go under the hammer at …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime