google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dylai pawb yn y sector gofal allu siarad Cymraeg sylfaenol’

Un o Perthshire yw Alison Roberts ac fe ddysgodd yr iaith yn y gumuned, heb unrhyw wersi ffurfiol, ar ôl cwrdd â Siôn – ei gŵr erbyn hyn – ac ymgartrefu ym Môn.

Mae’r ddau yn magu saith o blant, yn Gymraeg, ar eu fferm ger Llannerch-y-medd ond mae hi’n poeni ynghylch amharodrwydd eraill i ddefnyddio’r iaith, am ba bynnag reswm.

Dywed ei bod yn nabod llawer o bobl sydd “wedi byw yn Sir Fôn ers eu geni [sydd] jest ddim isho siarad Cymraeg”.

Testun pryder arall yw amharodrwydd pobl sy’n croesi’r ffin i ymgartrefu yng Nghymru i barchu’r iaith leol a dysgu i siarad rhywfaint ohono.

“Os maen nhw’n cario mlaen i wneud hynny dwi yn gweld yr iaith Gymraeg yn anffodus yn mynd i farw fel y Gaeleg os dydi pobl Cymraeg ddim yn gwneud petha’ amdano,” meddai.

Un cam posib, awgrymodd, fyddai “gwneud siŵr bod nhw yn ‘neud cwrs yn Gymraeg cyn maen nhw’n symud a helpu cario’r Cymraeg ymlaen”.

Ychwanegodd: “Os yn cael mwy a mwy yn symud mewn o Loegr maen nhw jest yn mynd i ladd yr iaith, a dwi didm isho hynny ddigwydd.”


Source link

Views: 2

See also  Guto Rhun 'wedi cael profiadau iechyd meddwl ofnadwy'

Check Also

Inmates found guilty of killing child murderer

Mark Fellows, David Taylor and Lee Newell attacked fellow inmate Kyle Bevan at HMP Wakefield. …

Three charged after record-breaking £139m cannabis seizure

Two men and one woman, aged in their 30s and 40s and from Merthyr Tydfil, …

Murlun newydd Pontrhydyfen i’r actor Ivor Emmanuel

Mae murlun newydd wedi ei greu ar dafarn The Colliers Arms ym Mhontrhydyfen fel teyrnged …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
power only ohio. Just a moment.... car transport new mexico.