google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Saith yn rhagor yn cael eu carcharu am eu rhan yn nherfysg Trelái

Advertisements

Y rhai a gafodd eu dedfrydu ddydd Iau am derfysg (riot) oedd:

Jamie Jones, 25 o Lanrhymni – pum mlynedd a dau fis.

Roedd yn un o nifer o bobl a aeth i ardd er mwyn casglu eitemau i daflu at yr heddlu.

Taflodd dair eitem cyn iddo gasglu bin gwastraff bwyd a thaflu hwnnw at swyddogion.

Zayne Farrugia, 26 o Gaerau – chwe blynedd.

Roedd yn un o’r cyntaf i fynd i’r ardd i gasglu cerrig i’w taflu at yr heddlu, ac fe daflodd chwe eitem.

Roedd ebychiadau o’r oriel gyhoeddus wrth iddo gael ei ddedfrydu i gyfnod sylweddol o garchar.

Jordan Webster, 30 o Drelái – pum mlynedd a saith mis.

Pan gafodd gar Audi du ei symud i ganol y ffordd er mwyn atal yr heddlu, fe waeddodd bod angen “rhedeg nhw i gyd drosodd”.

Bu’n taflu cerrig at yr heddlu ac fe wthiodd droli siopa i mewn i’r ffordd er mwyn i bobl eraill ei lenwi gydag eitemau i’w taflu.

Jayden Westcott, 21 o Drelái – pum mlynedd a dau fis.

Bu’n ffilmio swyddogion heddlu gyda’i ffôn tra’n eu sarhau, ac fe daflodd eitemau hefyd.

Roedd hefyd yn annog y dorf i ymuno ag ef wrth iddo wthio’r droli siopa tuag at yr heddlu.

Pan gafodd ei arestio dywedodd y byddai heddwas “yn marw heno”.

James Chappell, 31 o’r Barri – pedair blynedd a phedwar mis.

Fe wnaeth Chappell a dyn arall yrru i’r lleoliad, ac fe gafodd ei glywed yn dweud ei fod yn “gobeithio y bydd heddweision yn cael eu hanafu y tro yma”.

Bu hefyd yn taflu sawl eitem tuag at swyddogion.


BBC News

Views: 1

See also  William and Kate send condolences after pizza van owner's death

Check Also

Carcharu dyn 74 oed o Wynedd am feddu ar heroin gwerth £33,600

Dywedodd y barnwr wrth Arthur Hughes ei bod yn “drist gweld dyn 74 oed sydd …

Kiran Carlson: Glamorgan skipper picked for The Hundred bow by London Spirit

Glamorgan captain Kiran Carlson has earned his first call-up for The Hundred after being selected …

Wales Netball secures fresh investment for professional side Dragons

“Wales Netball retains majority ownership and control of the club, and this partnership allows us …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
power only ohio. Just a moment.... power only north carolina.