google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gething: Amddiffyn cynlluniau ôl-Brexit Starmer

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwyno’n gyson bod y Ceidwadwyr yn Rhif 10 yn tanseilio datganoli trwy fynd yn syth at awdurdodau lleol er mwyn dosbarthu arian ôl-Ewropeaidd, gwerth dros £300 miliwn y flwyddyn, a’u hepgor nhw o’r broses.

Llynedd, fe ddywedodd arweinydd Llafur y DU, Keir Starmer y byddai’n dychwelyd y grym dros wneud penderfyniadau ar arian ôl-Brexit i Lywodraeth Cymru.

Ond mae Llafur Prydain nawr yn dweud y bydd y grym dros yr arian yn cael ei rannu, rhwng San Steffan a Chaerdydd, os bydd Llafur yn ennill.

Cyn Brexit, Llywodraeth Cymru oedd yn gweinyddu grantiau’r Undeb Ewropeaidd, tra bod Llywodraeth Prydain yn negodi eu lefel, a faint oedd yn dod i Gymru.

Ond mynnu bod y maniffesto yn gyson ag addewid gwreiddiol Keir Starmer mae’r Ysgrifennydd Cysgodol dros Gymru, Jo Stevens.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru ddydd Gwener, dywedodd Ms Stevens, fod y sefyllfa’n “union yr un peth ag y dywedodd Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru”.

“Roedd gan Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru ill dwy ran i’w chwarae dan yr hen drefn Ewropeaidd,” meddai.




Source link

Advertisements
Views: 0

See also  Tom Lockyer 'yn derbyn' efallai na fydd yn chwarae eto

Check Also

Cymuned pentref yn Sir Gâr yn ‘colli ei galon’ wrth i glwb gweithwyr gau

Un arall sy’n mynychu’r Workies, fel mae’n cael ei adnabod yn y pentref, yn rheolaidd …

Has the fear of being filmed changed clubbing for Gen Z?

Student Freya Price will be on a night out with her friends, but she cannot …

Ci o Ben Llŷn wedi’i ganfod yn Lloegr ar ôl ‘tair wythnos o boeni’

Mae teulu o Ben Llŷn yn ddiolchgar i’r cyfryngau cymdeithasol am eu help yn dod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Analgesics which act to relieve pain.