google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

135 o feiciau trydan anghyfreithlon wedi eu meddiannu yng Nghaerdydd

Advertisements

Mae timau plismona cymunedol Heddlu’r De wedi cael rhagor o adnoddau i geisio mynd i’r afael â lladrata ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

“Rydyn ni wedi cipio beiciau sy’n gallu gwneud rhwng 85 a 90mya,” meddai’r Arolygydd Tim Ursell o Heddlu De Cymru.

“Mae hyn am roi adnoddau yn ôl ar ein strydoedd ac ymateb i’r hyn mae’r cyhoedd yn dweud sy’n broblem go iawn.”

Yn ystod yr ymgyrch cafwyd arestiadau hefyd mewn cysylltiad â meddu ar arfau a chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Ar ôl tynnu’r beiciau oddi ar y stryd, maen nhw’n cael eu sgrapio.

Mae’r batris yn cael eu tynnu ac yna eu hailgylchu, ond does dim modd ailgylchu’r beiciau, gan fod llawer ohonynt wedi cael addasiadau sy’n gwneud hynny’n amhosib.

Mae’r heddlu’n rhybuddio y bydd rhagor o feiciau trydan ac e-sgwteri anghyfreithlon yn cael eu meddiannu dros y misoedd nesaf.


BBC News

Views: 0

See also  Arestio dyn mewn ymchwiliad llofruddiaeth wedi 30 mlynedd

Check Also

Mark Hughes’ son died of sudden adult death syndrome

The son of former Manchester United footballer Mark Hughes died from sudden adult death syndrome, …

Swansea City: Right foundations now in place, says Tom Gorringe

Swansea ended 2024-25 in 11th place after an upturn in form under Alan Sheehan, only …

Tudur Dylan wedi’i ethol i fod yr Archdderwydd nesaf

Mae’r Prifardd Tudur Dylan wedi cael ei ethol i fod yr Archdderwydd nesaf, i olynu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar 600 apple peach elf bar elfbar buy elfbar 5000 buy elfbar elfbar disposable store.