google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

13 o blant wedi’u hanafu ar ôl digwyddiad yn ffair Porthcawl

Advertisements

Dywed y gwasanaethau brys nos Fercher eu bod yn ymateb i ddigwyddiad sy’n ymwneud â reid ym Mharc Pleser Traeth Coney ym Mhorthcawl.

Mae’n ymddangos bod plant ymhlith y rhai a oedd ar reid sy’n cael ei galw Wacky Worm yn ystod y damwain.

Mewn lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol mae oedolion i’w gweld yn helpu nifer o blant oddi ar y reid.

Dywedodd Heddlu’r De nos Fercher bod 13 o blant ac un oedolyn wedi dioddef mân anafiadau, gyda rhai wedi mynd i’r ysbyty am driniaeth.

Mae’r llu wedi cynghori’r cyhoedd i osgoi’r ardal. Bydd y parc ar gau dydd Iau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd llefarydd ar ran Parc Pleser Traeth Coney: “Wedi digwyddiad ar reid na sy’n eiddo i Draeth Coney – ond i gwmni arall – ry’n wedi cael gorchymyn gan yr heddlu i glirio’r safle ar gyfer ymchwiliad pellach.

“Ry’n yn ymddiheuro am unrhyw amhariad ac fe fydd ymwelwyr yr effeithiwyd arnynt yn cael arian yn ôl cyn gynted â phosib.

“Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar sut i hawlio ad-daliad yn fuan.”


BBC News

Views: 0

See also  Men's Hundred 2025: Manchester Originals v London Spirit highlights

Check Also

Commonwealth Games: What success looks like for Wales

Wales chef de mission Gethin Jones reveals his ideas of success for Wales at this …

Trystan Llŷr Griffiths: ‘Positifrwydd ar ôl diagnosis diabetes ein plentyn’

“O’n i mas yn gweithio ym Mrwsel,” meddai Trystan. “Des i nôl ar ôl mis, …

Angen annog rhagor o ffermwyr i ddefnyddio technoleg, medd undeb

Dyw technoleg ddim yn beth newydd i fyd amaeth. O aredig gyda llaw neu anifail, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
As your growth partner, we provide audience centric content marketing that attracts, engages and converts.