google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trystan Llŷr Griffiths: ‘Positifrwydd ar ôl diagnosis diabetes ein plentyn’

Advertisements

“O’n i mas yn gweithio ym Mrwsel,” meddai Trystan. “Des i nôl ar ôl mis, ar benwythnos cyntaf Mehefin, a sylwi bo’ Efa ‘di colli tipyn bach o bwyse, ond o’n i’n credu mai lawr i jest tyfu odd e.

“Ond o’dd Gwen wedi sylwi bod Efa’n sychedig trwy’r amser ac eisiau mynd i’r toiled o hyd, felly ‘nath Gwen wneud apwyntiad gyda’r doctor.”

Wedi’r symptomau cynnar o syched, dywedodd Gwen fod y meddygon yn Ysbyty Glangwili’n eitha’ siŵr beth fydde’r diagnosis.

“Y syched oedd y peth mwya’ i mi sylwi, ac o’dd hi wedi colli pwyse, ond o’n i’n meddwl mai rhyw growth spurt odd e. O’n i’n meddwl bod e werth checo fe mas achos roedd rhywbeth yn canu cloch fod bod yn sychedig yn un o symptomau diabetes.

“Aethon ni at y meddyg teulu ac fe wnaethon nhw brawf gwaed a checio‘r wrin. Oedd ei lefelau siwgr hi drwy’r to, off y scale yn llwyr, a ‘naethon nhw ddweud y dyle ni fynd adre’ a phacio overnight bag a mynd yn syth i’r ysbyty, i fynd yn syth ac i beidio gwastraffu amser – roedd e’n sioc enfawr.

“Roedden nhw’n eitha’ sicr yn syth o beth oedd e.”


BBC News

Views: 1

See also  Women's Euro 2025: Wales must embrace tough group

Check Also

Cardiff widow who became nurse after husband’s Covid death graduates

A woman who trained to become a nurse because she was so impressed with the …

Drought announcement looms for parts of Wales over river levels

“We’ve had really dry weather but also it’s been really hot – and those things …

Wrexham Women win on Champions League debut

Wrexham celebrated their Women’s Champions League debut with a thrilling 4-2 victory against FC Pyunik …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime