google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Zahra Errami: ‘Cyffuriau wedi bod o amgylch fi ers fy arddegau’

Advertisements

“Mewn ardaloedd mwy dinesig mae cyffuriau yn cael eu trafod yn fwy ond mewn cymuned bach distaw mae’n rhywbeth mae pobl yn gwneud ond mae’n teimlo yn fwy cuddiedig.”

Mewn cyfres newydd ar S4C, Cymru ar Gyffuriau, mae’r newyddiadurwr Zahra Errami o Sir Fôn yn ymchwilio i’r cynnydd yn y defnydd o ganabis, cocên a ketamine yng Nghymru.

Yn y gyfres mae’n siarad gyda phobl ifanc ac hefyd delwyr cyffuriau mewn ardaloedd gwledig a threfol ar hyd a lled y wlad.

Meddai: “Dwi’n berson ifanc so ti’n gweld bod pobl yn cymryd cyffuriau yn aml, bob penwythnos rili. Dwi wedi gweld o first hand.

“Dwi ddim yn meddwl fod llawer o bobl yn gwybod am yr extent yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.”

Un o’r ardaloedd hynny yw canolbarth Cymru ac mewn sgwrs gyda deliwr cyffuriau yno mae Zahra’n trafod mai cocên yw’r cyffur mwyaf poblogaidd yn yr ardal.

Mae’r deliwr, sy’n cuddio ei wyneb, yn sôn ei fod wedi cychwyn delio yn 12 oed a’i fod yn delio cocên i bobl proffesiynol yn ogystal â phobl ifanc yr ardal.

Meddai Zahra: “Cocên sy’ fwyaf cyffredin ond dydy o ddim yn arbennig i bobl ifanc bellach, mae o’n rhywbeth sy’n cael ei gymryd gan bob oedran.

“Mae’n rhywbeth dwi’n sicr wedi gweld yn y cymunedau bach – mae pawb yn cymryd cocên, ddim jyst pobl ifanc.”

Mae’r deliwr sy’n siarad gyda hi yn y rhaglen wedi dod o’r ddinas i gefn gwlad er mwyn gwerthu yno: “Mae’n amlwg bod ‘na rhyw fath o big operation yn digwydd.

“Oedd o’n un o’r ddinas ond wedi penderfynu sefydlu ei fusnes yng nghefn gwlad yn y gorllewin – oedd o’n gweld y demand am gyffuriau yno.”


BBC News

Views: 0

See also  Cardiff parking warning for Taylor Swift fans ahead of gig

Check Also

Llanddewi Velfrey murder investigation launched 35 years after pensioner’s death

Police have launched an investigation 35 years after the death of a 92-year-old man, with …

Llanelli recycling plant forced to take action after ‘biblical’ fly infestation

A metal recycling plant has been issued with an enforcement notice as part of an …

Death of Swansea man found after 20 years remains a mystery, inquest rules

A man whose remains were found more than 20 years after he went missing died …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime