google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Yws Gwynedd: 20 mlynedd o berfformio’n Maes B

Nôl yn 2004 roedd Yws Gwynedd yn cofio bod yn nerfus gefn llwyfan cyn perfformio am y tro cyntaf ym Maes B.

Y tro hynny, roedd yn brif leisydd y band Frizbee, oedd ond wedi ffurfio ychydig fisoedd ynghynt.

Eisteddfod Casnewydd oedd y lleoliad, ac roedd y band ifanc o Flaenau Ffestiniog ar fin gwireddu breuddwyd.

Eleni mae Yws yn perfformio eto ym Maes B, ugain mlynedd ers ei ymddangosiad cyntaf, nid gyda Frizbee a ddaeth i ben yn 2008, ond gyda’i fand ei hun.

“Dwi ddim yn cofio dim am y perfformiad nôl yn 2004. Dim ond teimlo’n nerfus cyn y perfformiad a siarad efo Radio Cymru wedyn,” meddai.

Erbyn hyn mae Yws Gwynedd yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin cerddorol yng Nghymru.

Prin oedd yn disgwyl y base’n perfformio ym Maes B 20 mlynedd ers y tro cyntaf.

“Dwi’n cofio roedd y gig yn y Newport Arena, adeilad anferth lle oedd ‘na lot o gigs mawr yn digwydd yno ar y pryd.

“Dwi ddim hyd yn oed yn cofio pwy oedd on ru’n pryd a ni, dwi eisiau deud Anweledig ond dwi ddim yn gant y cant yn saff,” meddai.


Source link

Advertisements

See also  Ian Buckett: Former Wales and Swansea prop dies aged 56

Check Also

Flintshire village changes name to Pentre Moch – meaning Pigs Village

A rural Welsh village will officially change its name to Pentre Moch – literally translated …

Nations League: How to follow Wales’ Nations League matches on the BBC

Two of Wales’ Nations League opponents enjoyed relative World Cup success this summer. Portugal reached …

Betsi Cadwaladr: Bwrdd iechyd wedi colli traean o’i gyfarwyddwyr

Ymysg yr achosion sydd yn cael eu nodi mae pum achos o wrthrych dieithr yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime