google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 12 2026

Dewi Bryn Jones yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod

Advertisements

Cafodd Dewi Bryn Jones ei eni ym Mhwllheli ac ar ôl graddio mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerefrog, bu’n gweithio yng Nghaergrawnt, Zurich a Helsinki.

Yn y Ffindir, dechreuodd gyfieithu a lleoleiddio meddalwedd Netscape Navigator cyn dychwelyd i Gymru i weithio gyda Draig Technology Ltd, lle datblygodd y rhaglen To Bach.

Ers 2002, mae wedi bod yn rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, gan arwain datblygiadau megis Cysill, Cysgeir, Y Porth Termau Cenedlaethol, a fersiynau digidol o eiriaduron Cymraeg.

Mae hefyd wedi bod yn flaenllaw ym maes technoleg lleferydd, gan gynnwys creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu siarad, a datblygu’r ap Lleisiwr ar gyfer cleifion y GIG.

Fe wnaeth Dewi gyfuno’r dechnoleg hon i greu Macsen – y cynorthwyydd personol cyntaf yn y Gymraeg – ac mae wedi cyfrannu’n helaeth at brosiect Common Voice gan Mozilla.

Mae’n darlithio ar gwrs Meistr mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi goruchwylio’r PhD cyntaf yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ef hefyd fu’n gyfrifol am ysgrifennu’r Llawlyfr Technolegau Iaith – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.


BBC News

See also  Teyrngedau i Meleri Mair, heddychwraig, cynhyrchydd a chantores

Check Also

Welsh farmer reveals life on Channel 4 reality series Apocalypse

A farmer from mid Wales was dropped into an abandoned American town with no food, …

Grade II Ugly House up for auction putting Gwynedd cafe at risk

The Snowdonia Society said the decision to sell “was not an easy one”, and it …

Rose out of Wales WXV squad with injury

Tighthead prop Donna Rose will miss this month’s WXV Global Series fixtures after suffering an …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime