google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn dod i ben

Mae’r Urdd wedi cyhoeddi bod Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi dod i ben a’u bod bellach wedi dechrau cynllun i roi cyfle i bobl ifanc fod yn Llysgenhadon Diwylliannol Rhyngwladol Ifanc.

Mae’n rhan o bartneriaeth newydd rhwng Urdd Gobaith Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru “i gynnig cyfleoedd anhygoel i rai o dalentau artistig mwyaf addawol Cymru”.

Am 20 mlynedd, roedd chwe pherson ifanc yn perfformio’n fyw ar S4C i geisio ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel, gyda’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £4,000.

Ymhlith yr enwau cyfarwydd sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth mae Mirain Haf, Rhian Lois, Aled Pedrick a Steffan Rhys Hughes.

Ond mae’r Urdd bellach yn cydweithio gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru er mwyn cynnig sesiynau mentora a chyfleoedd rhyngwladol i’r bobl ifanc ddaeth i’r brig yn y prif gystadlaethau dan-25 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.


Source link

Advertisements

See also  Nifer y bobl ar restrau aros wedi disgyn am y tro cyntaf mewn blwyddyn

Check Also

AI is being used to steal school pictures, photographers warn

Gilbert said other photographers were increasingly seeing the same behaviour from parents. He noticed that …

Cardiff University ‘banter’ account criticised for sexual assault posts

Some students are calling for a boycott of the social media page, with other posts …

Cylchgrawn ffilmiau yn cynnwys Leisa Gwenllian ar restr sêr y dyfodol

Dywedodd Leisa fod hyn yn gyfle arbennig all, o bosib, agor drysau iddi yn y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime