google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysgol ‘sydd wedi chwyldroi darlun ieithyddol Abertawe’ yn 40

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Heini Gruffudd, fod ardal Abertawe wedi wynebu “un frwydr ar ôl y llall” ynghylch datblygiad addysg Gymraeg.

Wrth gyfeirio at gyfnod yr ymgyrchu, fe ddisgrifiodd sut yr oedd yn rhaid i “rai disgyblion deithio o Benrhyn Gŵyr a wynebu taith o ryw awr bob ffordd o leiaf i fynd i Ystalyfera”.

Aeth ymlaen i sôn am y frwydr, gyda’r gymuned Gymraeg yn uno i fynnu addysg gyfun Gymraeg ar gyfer pobl ifanc yr ardal.

Dywedodd fod “cannoedd yn dod i’r cyfarfodydd… yn gorymdeithio i Neuadd y Sir”.

“Yn y pen draw, roedd cymaint o brotestio roedd y peth wedi mynd bron yn fater cenedlaethol, disgyblion a rhieni yn eistedd i mewn yn Neuadd y Sir.

“Cafwyd deiseb o ryw 20,000 hefyd yn galw am yr ysgol,” ychwanegodd gan ddweud bod Gareth Thomas, y gweinidog, wedi mynd i weld John Allison, Arweinydd y Cyngor, a’i annog i sefydlu’r ysgol.

“Wedodd e wrth ei gynghorwyr Llafur, pe bai nhw ddim yn ei gefnogi i sefydlu’r ysgol, y byddai ef yn ymddiswyddo fel Arweinydd y Cyngor.”


Source link

Advertisements

See also  Barry man died of stab wound to chest, inquest hears

Check Also

AI is being used to steal school pictures, photographers warn

Gilbert said other photographers were increasingly seeing the same behaviour from parents. He noticed that …

Cardiff University ‘banter’ account criticised for sexual assault posts

Some students are calling for a boycott of the social media page, with other posts …

Cylchgrawn ffilmiau yn cynnwys Leisa Gwenllian ar restr sêr y dyfodol

Dywedodd Leisa fod hyn yn gyfle arbennig all, o bosib, agor drysau iddi yn y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime