google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ysbyty Maelor: ”Dan ni yno efo’r cleifion o hyd’

9d6ff670 1aa2 11f0 999d 89a1b86ed8d9.jpg

Advertisements

O restrau aros hir i gleifion yn cysgu mewn coridorau, mae straeon am y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyson yn y newyddion.

Tu hwnt i’r heriau yma mae ‘na bobl sy’n gweithio mewn amgylchiadau anodd ac mae cyfres newydd ar S4C, Ysbyty, yn rhoi cipolwg ar waith rhai o aelodau staff ysbytai gogledd Cymru.

Un o’r rheiny yw Rhian Wyn Edwards o Ddyffryn Ceiriog, sy’n weithiwr cymorth gofal iechyd yn yr adran frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Bu Rhian yn rhannu sut beth yw gweithio mewn uned lle dyw’r drysau byth yn cau a sut brofiad oedd cael camerâu yn ei dilyn wrth ei gwaith.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: “Dwi wedi ymuno â’r NHS i helpu bobl ac i wneud gwahaniaeth gobeithio. Mae pawb yn dweud fod yr ysbyty wastad yn orlawn ac mae o – ond ‘dan ni’n delio gyda fo ac yn tynnu’n glos fel tîm ac yn gweithio dan amgylchiadau caled.”

Mae Rhian yn obeithiol y bydd y gyfres newydd yn arwain at fwy o ddealltwriaeth o’r heriau i staff: “Mae ‘na bobl yn dweud weithiau bod hi ddim yn brysur ond mae’r doctors yn delio efo sefyllfaoedd lle mae angen cadw rhywun yn fyw.

“Mae pobl yn deall. Mae ‘na lot i ddweud am sut ti’n mynd o gwmpas pethau a sut ti’n siarad efo pobl. A dyna lle mae’r empathi yn dod mewn.

“Mae ‘na rai sy’ wedi aros deuddydd (i gael gofal) ond mae’n rhaid i bobl hefyd sylweddoli beth sy’n dod mewn drwy’r drysau. Fedri di eistedd lawr a siarad efo pobl a dweud ‘ni’n sori, mae ‘na aros hir ond mae lot o ambiwlansys mewn’.

“Weithiau dyna’r cwbl maen nhw isho clywed. Yn lle gadael nhw’n eistedd yn reception am 12 awr, ti’n dweud, dyma fel y mae hi‘.

“Mae pobl isho gwybod bod y staff ddim wedi anghofio amdanynt. Ac mae pawb yn haeddu hynny.”


BBC News

See also  Academi newydd yn gam ymlaen i rygbi merched gogledd Cymru

Check Also

Galw am sicrwydd ariannu i brosiect digartrefedd sy'n newid bywydau

Rhybudd fod perygl i brosiect chwyldroadol sy’n atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ddisgyn …

‘Selfish’ mountaintop selfies face criticism from queuing crowds

Visitors to Wales’ highest mountain are being urged to respect others by not jumping queues …

Wales’ Ioan Hepburn wins two golds and a silver at Junior Track World Championships

Welsh cyclist Ioan Hepburn won a second gold medal and a silver at the Junior …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime