google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr Eglwys wedi ‘cuddio honiadau cam-drin am ddegawdau’ – adroddiad

Advertisements

Yn 2023 dywedodd dyn arall, a gafodd ei gam-drin gan Pierce pan oedd yn fachgen, wrth yr Eglwys yng Nghymru am hynny.

Mae Pierce yn y carchar ar ôl cyfaddef y llynedd iddo ymosod yn rhywiol ar y bachgen yn ei arddegau bum gwaith rhwng 1985 a 1990.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau wrth BBC Cymru fod yr ymchwiliad yn erbyn Anthony Pierce, sy’n 85 oed, dal yn agored.

Mae’r adolygiad yn nodi fod “nifer o newidiadau” wedi’u gwneud ers y 1990au, gan gynnwys cyflwyno swyddogion diogelu, datblygu polisïau, a mwy o graffu a gwiriadau diogelu wrth benodi esgobion.

Fodd bynnag, mae’r adolygiad yn nodi fod “rhai gwendidau yn parhau” yn y broses o benodi esgobion.

Mae’r adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion er mwyn ceisio gwella hynny tra’n nodi y byddai’n “annhebygol iawn” y bydden nhw wedi newid canlyniad achos Pierce.

Dydi’r adolygiad ddim wedi asesu systemau a phrosesau presennol yr Eglwys yn Nghymru oni bai am benodi esgobion ac archddiaconiaid.

Wrth wraidd hyn oll oedd ymddygiad Anthony Pierce tuag at fachgen oedd yn 15 oed ar y pryd.

Bachgen sydd, erbyn hyn, wedi marw.

Mae ei fam wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydi hi’n ffyddiog y bydd gwersi yn cael eu dysgu.

“Roedd pobol yn gwybod,” meddai, “drwy gydol y cyfnod yma, roedd pobol yn gwybod, ac eto, doedd neb yn joino’r dots.

“Doedd neb yn dal gafael ynddo fe, a gwneud rhywbeth strategol tuag at ddatrys y peth, ddim unwaith.

“Doedd neb yn becso, doedd neb yn gwrando. Dyw hyn, yn amlwg ddim yn ddigon, ac yn rhy hwyr i fy mab.

“Ma ‘da fi ddelwedd ohono fe’n gwenu, yn dweud ‘diolch mam am fwrw mlaen gydag e’. Diolch am beidio gadael i bethe fynd – diolch am ddal i gredu ynof i.”


BBC News

Views: 2

See also  NATO â diddordeb mewn prynu cerbyd Ajax, meddai gweinidog

Check Also

Mabel Wulff: Y Gymraes fu’n gwrthwynebu’r Gestapo

Roedd gan y Gestapo ddiddordeb mawr yn yr eglwys Anglicanaidd yma a oedd â gofalwr …

Abbie Fleming: Wales forward joins PWR rivals Leicester Tigers after Harlequins exit

Leicester finished bottom of PWR last season, losing all 16 of their league games. Collecting …

Boy had face of ‘pure hatred’ while attacking Milford Haven teacher, Swansea court told

A teenager had a face of “pure hatred” as he launched at his teacher with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Solar product reviews.