google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr awdur toreithiog a’r darlledwr Alun Gibbard wedi marw

Advertisements

Fe gyhoeddodd dros 30 o lyfrau, yn Gymraeg ac yn Saesneg – y mwyafrif yn rhai dogfennol.

Roedd wrth ei fodd yn cydysgrifennu bywgraffiadau. Yn eu plith mae ‘Y da a’r direidus’ – stori Aled Hall, ‘Mab y Mans’ – hunangofiant Arfon Haines Davies, ‘Yn erbyn y Ffactore’ – hunangofiant Non Evans; ‘Cofion Gorau’ – bywgraffiad Tony ac Aloma a ‘Hunan-anghofiant’ – hunangofiant y cerddor a’r cyflwynydd Brychan Llŷr.

Ei ddiddordeb mawr oedd gwaith y bardd Dylan Thomas ac yn ei flynyddoedd diwethaf bu’n gweithio i The Birthplace gan addysgu ymwelwyr am y bardd ac roedd e yn y broses o ysgrifennu cyfrol ar fywyd cynnar Dylan Thomas yn Abertawe.

Ef hefyd oedd awdur y gyfrol ‘Yn Erbyn y Gwynt’ sef cofiant i Carwyn James ac ysgrifennodd gofiant i gyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Ysgrifennodd hefyd nifer o gyfrolau yn y gyfres Stori Sydyn – yn eu plith ‘Llais yr Adar Gleision’. ‘Fyny gyda’r Swans’ a ‘George North’.

Yn Saesneg ysgrifennodd gyfrol ar wleidydiaeth Cymru yn yr 80au, un arall ar ddatganoli a chyfrol gyda’r ddau refferî – Nigel Owens a Derek Bevan.

Roedd hefyd yn awdur nofel sef ‘Talcen Caled’ ac yn gyfrannwr cyson i’r cylchgrawn Golwg a chylchgronau eraill.

Wedi ei addysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel ac Ysgol y Bechgyn yn Llanelli cafodd radd yn y Dyniaethau yng Ngoleg Polytechnig Pontypridd – fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd.

Yn ystod ei flynyddoedd diwethaf roedd yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd yn fab i’r diweddar hanesydd, y Parchedig Noel Gibbard ac mae’n gadael ei fam Helen a dwy chwaer Menna a Nia a’u teuluoedd.


BBC News

Views: 0

See also  'Stop Brexit man' Steve Bray cleared over noisy protest

Check Also

Man v Horse race has 'special place in heart' of BBC's Sophie Raworth

Raworth first took part in the race in Powys eight years ago and said it’s …

Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig eisiau bod yn Llywydd nesaf y Senedd

Mae cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi cadarnhau y byddai’n hoffi bod yn …

Wrexham’s summer in-tray: Contracts, transfers, loan decisions and fine-tuning

Having signed 13 players last summer to overcome the gap from League One to the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.