google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr Americanwr sy’n adrodd cerddi Dafydd ap Gwilym

Advertisements

Er ei fod yn dyheu am daith arall i Gymru er mwyn ymarfer sgwrsio’n Gymraeg bob dydd, prin iawn yw’r siaradwyr Cymraeg yng Nghymru all ddeud eu bod nhw’n deall Cymraeg yr Oesoedd Canol.

Felly ai Cymraeg yr Oesoedd Canol neu Gymraeg heddiw sydd rwyddaf i Samuel?

“Mae darllen Y Mabinogion yn gallu bod yn haws i mi na darllen nofelau Cymraeg heddiw,” eglurai Samuel.

“Ond dwi’n falch i mi ddysgu Cymraeg ‘Modern’ yn gyntaf. Dwi’n ‘nabod rhai pobl sydd wedi astudio Cymraeg ‘Canol’ cyn cael eu cyflwyno i Gymraeg ‘Modern’!”

Pam dewis gwneud doethuriaeth ar farddoniaeth Gymraeg ganol-oeseol?

“Ces i fy ngradd gyntaf yn y Clasuron, dwi’n licio Lladin a Groeg. Mae pob traddodiad yn tarddu ohonynt, ond wnes i sylwi fod y traddodiad Cymraeg hefyd yn unigryw. Mae’r gynghanedd yn swnio mor wych i’r glust.

“Hefyd does dim wastad stori mewn cerddi canol-oesol yn Gymraeg, y sŵn sy’n bwysig.

“Mae’n anodd i mi gyfieithu’r cerddi i fy rhieni neu ‘nghariad achos y sŵn sy’n bwysig, nid y stori, dyna pam mae’n bleser eu darllen allan yn uchel.”

Ac mae’n edrych ymlaen i gynulleidfa ddi-Gymraeg fwynhau sain y gynghanedd yn ystod ei ddarlleniadau yn Harvard Arts Museum ar 20 Mawrth.


BBC News

See also  Regata Cei Newydd yn 'gyfle i ddathlu ein treftadaeth'

Check Also

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Wrexham news: Red Dragons seek ‘horrible’ streak amid defensive issues

But it has been far more settled this term, with Zak Vyner, Hyam and Callum …

Susie Dent says she is determined to learn the Welsh language

Susie Dent has been a familiar face on television for more than 30 years, sitting …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime